Neidio i'r prif gynnwy

Ailgychwyn Calon

Achub Bywyd: Dysgwch CPR

Bob mis Hydref, i nodi Diwrnod Ailgychwyn Calon Byd Eang, byddwn yn cydlynu hyfforddiant miloedd o fyfyrwyr ar draws ysgolion uwchradd Cymru.

Os bydd rhywun yn dioddef ataliad y galon, mae eu siawns o oroesi yn dyblu os yw'n digwydd o flaen rhywun sy'n gwylio sy'n dechrau CPR ar unwaith cyn i ni gyrraedd.

I gofrestru diddordeb eich ysgol ewch i: Diwrnod Ailgychwyn Calon – ffurflen gofrestru ysgol

Achub Bywyd Cymru

Sefydlwyd Achub Bywyd Cymru i annog pobl ledled Cymru i ddysgu CPR ac i deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio diffibriliwr os oes gan rywun ataliad ar y galon gartref.

Bob blwyddyn bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad ar y galon yn y gymuned yng Nghymru, ac mae’r gyfradd goroesi yn llai na 5%. Nod Achub Bywyd Cymru yw cynyddu’r gyfradd goroesi hon yn sylweddol.

Mae ymgyrch Cyffwrdd Bywyd yn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau sylfaenol CPR a diffibrilio i bobl – oherwydd covid-19 mae hwn ar gael ar hyn o bryd fel offeryn hyfforddi ar-lein.

Cymerwch ychydig funudau i ddysgu neu adnewyddu eich sgiliau CPR - gallent fod yn rhai o'r munudau pwysicaf y gallwch eu treulio.

Dysgwch fwy yn www.llyw.cymru/savealifecymru

Gwyliwch y fideo CPR yma .