Neidio i'r prif gynnwy

Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn

Mae gweithwyr brys yng Nghymru yn gofyn i'r cyhoedd eu trin â pharch

Mae nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys yng Nghymru ar gynnydd, yn ôl data newydd.

Cyflawnwyd mwy na 4,240 o ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys, gan gynnwys heddlu, criwiau tân ac ambiwlans, yn y cyfnod Ebrill 2019 - Tachwedd 2020, sy'n cynrychioli cynnydd misol ar gyfartaledd o 202 yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%.

Roedd yr ymosodiadau yn amrywio o gicio, dyrnu a thorri pen, i boeri, slapio, brathu a cham-drin geiriol.

Mae gweithwyr brys yn gofyn i’r cyhoedd eu trin â pharch, ac mae ganddynt y ple canlynol – gweithio gyda ni, nid yn ein herbyn.



Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae ein criwiau ambiwlans yno i helpu pobl, ond ni allant frwydro am fywyd rhywun os ydynt yn ymladd dros eu rhai nhw.

“Efallai nad oes gan ein criwiau unrhyw ddewis ond gadael golygfa os yw eu diogelwch personol yn cael ei beryglu, ac nid yw hyn o gymorth i unrhyw un, yn lleiaf oll y claf.

“Gall gweithred hollt-eiliad o drais gael effaith ddinistriol a hirdymor ar ein staff, yn gorfforol ac yn emosiynol.

“Nid yw’r ddyled o ddiolchgarwch sy’n ddyledus i’n gweithwyr brys erioed wedi bod yn fwy, felly nawr yn fwy nag erioed, rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd weithio gyda ni, nid yn ein herbyn.”

Yn 2018, dyblwyd uchafswm y ddedfryd o dan y Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr Brys (Troseddau) o chwe mis i 12 mis yn y carchar, ond gallai troseddwyr wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar yn fuan o dan gyfreithiau newydd.

Addunedwch eich cefnogaeth i'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #WithUsNotAgainstUs neu #GydaNiNidYnEinHerbyn.