Yn ystod y Pandemig Coronafeirws presennol bydd y Tîm Gwasanaethau Cofnodion ac Archifau yn gweithio gartref. O ganlyniad efallai y bydd oedi pe baech yn anfon eich cais drwy'r Post Brenhinol. Gallwn eich sicrhau y bydd pob cais yn cael ei reoli hyd eithaf ein gallu o fewn yr amseroedd ymateb arferol o 30 diwrnod calendr o dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016
Os oes gennych fynediad i e-bost ac yn barod i gyfathrebu drwy'r dull hwn, byddem yn gwerthfawrogi.
Diolch am eich dealltwriaeth ar yr adeg hon.
Judith Birkett – Rheolwr Gwasanaethau Cofnodion ac Archifau
Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn rhoi hawl i unigolion gael mynediad at gofnodion iechyd. Caniateir 30 diwrnod calendr i'r Ymddiriedolaeth ar ôl derbyn cais i ddarparu copïau o'r cofnodion y gofynnwyd amdanynt. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth www.ico.org.uk/your-data-matters/ .
Os dymunwch gael mynediad i'ch cofnodion, cofnod ar ran rhywun arall neu berson sydd wedi marw, byddai'n ddefnyddiol pe gallech lenwi'r ffurflen gais ganlynol, y bydd angen ei hanfon at Dîm Gwasanaethau Cofnodion WAST. Gallwch naill ai lenwi'r ffurflen yn electronig drwy ddefnyddio'r E-Ffurflen neu ysgrifennu eich cais â llaw gan ddefnyddio'r fersiwn argraffadwy o'r ffurflen.
Wrth gwblhau'r ffurflen gais, os gwelwch yn dda:
Byddwch yn benodol – helpwch ni i nodi’r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch, er enghraifft, os yw’r cais yn ymwneud â digwyddiad yna mae dyddiad, amser a lleoliad y digwyddiad yn ein helpu i ddod o hyd iddo;
Darparwch brawf o bwy ydych – er enghraifft, pasbort, trwydded yrru, neu dystysgrif geni ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall a all gadarnhau eich cyfeiriad, ee bil cyfleustodau. Sylwch nad oes angen dogfennau gwreiddiol arnom, derbynnir llungopïau.
Darparwch brawf o berthynas - os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson arall darparwch brawf o berthynas ac unrhyw ganiatâd angenrheidiol. Bydd angen i chi hefyd nodi'r rheswm pam fod angen y wybodaeth arnoch os yw'r person wedi marw;
A rhowch eich manylion cyswllt – eich cyfeiriad gohebu, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost os bydd angen cysylltu â chi i drafod eich cais ymhellach.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gweler y dudalen arweiniad 'Nodiadau i Ymgeiswyr' ar gefn y Ffurflen Gais er gwybodaeth ichi. Fel arall, cysylltwch â'ch Adran Mynediad at Gofnodion Iechyd leol, lle bydd aelod o'r tîm yn hapus i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
E-bost: Amb.records@wales.nhs.uk
Ffôn: 0300 123 2310, dydd Llun i ddydd Gwener, 08:30 – 16:30 (ac eithrio Gwyliau Banc)
Cyfeiriad:
Tîm Gwasanaethau Cofnodion ac Archifau
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ty Elwy, Uned 7
Ffordd Richard Davies
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
LL17 0LJ