Neidio i'r prif gynnwy

Meddyliwch yn ofalus cyn deialu 999

Peidiwch ag oedi cyn ffonio 999 yn achos argyfwng gwirioneddol sy'n bygwth bywyd, megis poen yn y frest, diffyg anadl, anymwybodol neu waedu difrifol.

Fodd bynnag, mae nifer o opsiynau eraill ar gyfer pobl sy’n llai difrifol wael neu sydd wedi’u hanafu, gan gynnwys:

  • Ymweld â'ch fferyllfa leol
  • Ffonio GIG 111 Cymru drwy ddeialu 111
  • Ymweld â www.111.wales.nhs.uk
  • Ymweld â'ch Meddyg Teulu lleol

Os oes angen i chi fynd i'r ysbyty, a allwch chi gyrraedd yno mewn car, trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi? Ni fyddwch yn cael eich gweld yn yr ysbyty yn gynt os byddwch yn cyrraedd mewn ambiwlans.

Os byddwch yn ffonio 999 am broblem nad yw'n argyfwng gwirioneddol, yna gallech fod yn gohirio ein hymateb i rywun sy'n dioddef o gyflwr sy'n bygwth bywyd.

Nid yw llawer o'r galwadau a gawn yn argyfyngau sy'n bygwth bywyd. Meddyliwch yn ofalus cyn i chi ffonio 999 - gallwch helpu i achub bywydau.

Ffoniwch 999 ar unwaith ar gyfer argyfyngau fel:

  • Poen yn y frest
  • Anhawster anadlu
  • Colli ymwybyddiaeth
  • Colli gwaed yn ddifrifol
  • tagu
  • Ffitiadau/confylsiynau
  • Boddi
  • Adweithiau alergaidd difrifol


Galw 112 am y gwasanaethau brys
Mae 112 yn rhif ffôn gwirioneddol y gwasanaethau brys. Pan fyddwch chi'n ffonio 112 rydych chi'n defnyddio'r gwasanaethau brys yn yr un ffordd â 999. Yr unig wahaniaeth yw bod 112 yn gweithio ledled yr UE.