Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i NEPTS

Gofynion Mynediad Cyffredinol

Mae’r rhinweddau sydd eu hangen i ddod yn aelod llwyddiannus o NEPTS yn cynnwys:

  • Rhagolwg sy'n canolbwyntio ar y claf
  • Personoliaeth gytbwys, yn gallu gweithio'n dda dan bwysau
  • Tueddiad gofalgar a thosturiol
  • Gonestrwydd ac uniondeb
  • Addysg gyffredinol o safon dda
  • Lefel dda o ddeheurwydd corfforol a ffitrwydd personol
  • Dyfeisgarwch a sgiliau trefnu
  • Y gallu i weithio'n unigol yn ogystal fel rhan o dîm

Rhaid i ymgeiswyr am swyddi staff gweithredol feddu ar:

  • Addysg o safon dda
  • Trwydded yrru lawn gan gynnwys o leiaf categori B (mae categori C a D yn ddymunol)
  • Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr sydd â hyd at dri phwynt ar eu trwydded
  • Mae’n rhaid nad ydych wedi’ch cael yn euog o unrhyw droseddau gyrru difrifol

Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gynnal asesiad a chyfweliad, a rhoddir manylion am hyn i ymgeiswyr llwyddiannus.

Hyfforddiant

Mae’r rhaglen hyfforddiant cychwynnol ar gyfer staff gweithredol NEPTS yn cynnwys:

  • Pythefnos o hyfforddiant sefydlu sy'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i staff i sicrhau bod anghenion penodol y cleifion yn cael eu diwallu, yn ogystal â sgiliau cymorth cyntaf, cymorth bywyd sylfaenol a gofal cleifion. Mae hyfforddiant statudol a gorfodol hefyd wedi'i gynnwys yn y cwrs hwn, ee ymdrin yn fwy diogel, datrys gwrthdaro, diogelu a rheoli heintiau.
  • Un wythnos o hyfforddiant gyrrwr

Gweld ein holl swyddi gwag presennol. Er mwyn gwneud cais, ewch i www.jobs.nhs.uk .

Gallwch hefyd gofrestru eich cyfeiriad e-bost ar wefan NHS Jobs, a bydd y wefan yn eich hysbysu'n awtomatig pan fyddwn yn hysbysebu swyddi gwag. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cael y newyddion diweddaraf a swyddi gwag gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru drwy ein dilyn ar Facebook a Twitter .

Gwirfoddoli

Holi am wirfoddoli.