Neidio i'r prif gynnwy

Ydw i'n Gymwys Ar Gyfer Cludiant NEPTS?

Mae'r gwasanaeth hwn yn adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sydd ei angen ac sy'n dibynnu arno ac ni ddylid ei ddefnyddio yn lle dulliau eraill o gyrraedd apwyntiadau.

Allwch chi ddweud ie i un neu fwy o'r canlynol?

  1. Ydych chi'n dioddef o Glefyd Niwronau Motor?
  2. Ydych chi'n cael Triniaeth Arennol?
  3. Ydych chi'n cael Triniaeth Oncoleg?
  4. Ydych chi angen cymorth gan gymhorthion cerdded?
  5. Ydych chi'n defnyddio eich cadair olwyn eich hun?
  6. Oes angen i chi deithio mewn stretsier?
  7. Oes angen ocsigen arnoch chi?
  8. A oes gennych chi anghenion meddygol sy'n eich atal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Ydych chi wedi darllen yr holl wybodaeth am y Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng (NEPTS) , ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml , wedi profi eich cymhwysedd, ac yn dal i gredu y gallech fod yn gymwys ar gyfer ein cludiant cleifion?

Gallech fod yn gymwys ar gyfer ein Gwasanaeth Trafnidiaeth. Ffoniwch 0300 123 2303.

Mae ein canolfannau archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm.

Pan fyddwch yn ffonio bydd aelod o'n tîm yn asesu eich anghenion cludiant gan nodi eich symudedd, penderfynu ar y math o gerbyd a lefel y gefnogaeth sydd ei hangen gan ein staff.

Cyn ffonio, gwnewch yn siŵr bod y canlynol ar gael;

  • Rhif GIG;
  • Rhif Ffon;
  • Enw'r ysbyty/adran. rydych yn ymweld a;
  • Dyddiad ac amser eich apwyntiad.

Os archebir eich cludiant, cynigir neges destun i'ch atgoffa i ffôn symudol 1 diwrnod cyn eich archeb ( bydd y neges hon yn eich atgoffa o amser a dyddiad eich archeb ac yn gofyn i chi gadarnhau a oes angen y cludiant arnoch o hyd).

Byddwch hefyd yn cael cynnig cyfle i gwblhau holiadur ar sut y daethoch o hyd i'n gwasanaeth.

Ar gyfer cleifion y canfyddir eu bod yn anghymwys drwy ein proses gymhwysedd, mae rhai opsiynau i’w hystyried ar gyfer dulliau eraill o deithio yma.