Neidio i'r prif gynnwy

Model Ymateb Clinigol

Mae’r ffordd yr ydym yn mesur gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru wedi newid.

Ers 1974 mae ein gwasanaeth ambiwlans wedi’i fesur yn ôl yr amser mae’n ei gymryd i gyrraedd galwadau brys. Mae gwasanaeth ambiwlans heddiw yn darparu gofal llawer mwy soffistigedig ac felly, yn 2015, gwnaethom dreialu model ymateb newydd a oedd yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal a ddarperir yn hytrach na’r amser a gymerodd i ni eich cyrraedd.

Peidiwch â phoeni - os ydych chi'n dioddef argyfwng sy'n bygwth bywyd fel ataliad ar y galon neu golled gwaed mawr, byddwn yn dal i anfon yr adnoddau agosaf sydd ar gael cyn gynted â phosibl.

Ar gyfer cyflyrau llai difrifol, rydyn ni'n cael ein mesur ar ba mor dda rydyn ni'n eich trin chi a pha mor aml rydyn ni'n llwyddo i osgoi taith i'r ysbyty trwy eich cyfeirio at y lleoliad clinigol mwyaf priodol. Mae’r model ymateb clinigol hwn yn rhoi’r claf wrth galon ein gwaith.

Barnwyd bod treial 2015 yn llwyddiant gyda’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC a gwerthusiad annibynnol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC) yn argymell parhau â’r model yn 2017. Er gwaethaf yr argymhellion cadarnhaol hyn ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau ond parhau i ymdrechu a gwella ein gwasanaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Yn ddiweddar rydym wedi croesawu Adolygiad Ambr annibynnol cadarn a manwl EASC sydd wedi amlygu manteision ein model ymateb clinigol gyda chefnogaeth yr egwyddor; 'i gael yr ymateb gorau hyd yn oed os nad dyma'r ymateb cyflymaf'. Rydym yn cydnabod y meysydd i’w gwella ac rydym yn gweithio tuag at wella’r gofal rydym yn ei ddarparu yng Nghymru ymhellach. I weld yr adroddiad llawn dilynwch y dolenni canlynol:

Saesneg: https://easc.nhs.wales/publications/amber-review/

Gweld y dangosyddion ansawdd ambiwlans presennol

Gweld perfformiad y Gwasanaeth Ambiwlans a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru .

 

Os hoffech roi adborth ar unrhyw agwedd ar eich profiad gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, e-bostiwch ein Tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned yn: peci.team@wales.nhs.uk