Neidio i'r prif gynnwy

Byddar a Thrwm eu Clyw

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth bwysig i bobl sy'n fyddar ac yn drwm eu clyw. Darganfyddwch sut y gallwch gysylltu â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru os bydd argyfwng. Gallwch hefyd ddarllen am gerdyn Gwybodaeth Feddygol a all helpu i rannu gwybodaeth bwysig gyda staff y gwasanaeth ambiwlans.


Canllaw Cyfathrebu Cyn Ysbyty

Rydym wedi datblygu fersiwn App o’r canllaw cyfathrebu cyn ysbyty , sydd ar gael i bawb ei ddefnyddio, gallwch ei lawrlwytho i’ch ffôn am ddim. Mae’r Ap yn offeryn i helpu i gyfathrebu â’r rhai sydd ag anghenion cyfathrebu ychwanegol gan gynnwys:

  • Pobl fyddar a thrwm eu clyw
  • Pobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
  • Pobl ag anableddau dysgu
  • Pobl y mae eu salwch neu anaf yn effeithio ar eu cyfathrebu

Mae’r Ap yn defnyddio delweddau ac ychydig bach o destun i’ch helpu i ddweud wrth rywun os ydych wedi cael damwain.

Mae ein ap ar gael ar iOS, Android a Blackberry.
iOS - chwiliwch am 'PreHospApp'
Blackberry - chwiliwch am 'ap cyn ysbyty'
Android - chwiliwch am 'Pre-Hospital Communication App'

Mae gan GIG 111 Cymru wybodaeth am Fyddarddallineb ar y wefan a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Mae gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion nifer o glipiau fideo BSL ar gael, cliciwch ar y ddolen hon i'w gweld: cyfieithiadau BSL | Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (rcpsych.ac.uk)