Neidio i'r prif gynnwy

Cerdyn Gwybodaeth Feddygol

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gwneud Cerdyn Gwybodaeth Feddygol ar gyfer pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw.

Bydd y cerdyn yn eich helpu i roi gwybodaeth bwysig i barafeddygon a staff gwasanaethau brys eraill os bydd damwain neu argyfwng.

Bydd angen i chi lenwi cymaint o fanylion ag y gallwch ar y cerdyn a'i gadw gyda chi bob amser.

Cofiwch roi'r cerdyn i staff y gwasanaethau brys pan fyddant yn cyrraedd.

Bydd y wybodaeth ar y cerdyn yn cynnwys eich enw, unrhyw broblemau meddygol ac alergeddau ac unrhyw feddyginiaeth a gymerwch.

(Os ydych yn llenwi ochr Gymraeg y cerdyn llenwch yr ochr Saesneg hefyd oherwydd efallai na fydd y parafeddyg sy'n eich helpu yn gallu darllen Cymraeg)

I gael cerdyn e-bostiwch peci.team@wales.nhs.uk, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi eich enw, cyfeiriad a chod post. Yna byddwn yn anfon Cerdyn Gwybodaeth Feddygol atoch.

Mae'r stori hon yn sôn am Andrea sy'n fyddar ac a ddefnyddiodd ein Cerdyn Gwybodaeth Feddygol i hwyluso cyfathrebu mewn argyfwng.