Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Testun Brys

Ar gyfer pobl fyddar, trwm eu clyw neu nam ar eu lleferydd

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bellach yn rhan o'r gwasanaeth SMS brys cenedlaethol.

Mae’r gwasanaeth SMS brys yn gadael i bobl fyddar, trwm eu clyw a nam ar eu lleferydd yn y DU anfon neges destun SMS i wasanaeth 999 y DU lle bydd yn cael ei throsglwyddo i’r heddlu, ambiwlans, achub tân, neu wylwyr y glannau.

Yn syml, trwy anfon neges SMS i 999 gallwch ffonio am help a bydd y gwasanaethau brys yn gallu ymateb i chi.

Byddwch ond yn gallu defnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych wedi cofrestru gyda brys SMS yn gyntaf. I gofrestru gyda'r gwasanaeth hwn, tecstiwch 'register' i 999. Byddwch yn cael ateb, yna dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonir atoch. Cliciwch ar y ddolen gwefan isod i ddarganfod mwy am sut i gofrestru.

Cofiwch:

Gwasanaeth brys yw hwn a rhaid ei ddefnyddio dim ond mewn argyfwng megis:

- Mae bywyd mewn perygl
- Rydych chi'n ddifrifol wael
- Mae angen ambiwlans arnoch ar frys
- Rhywun yn cael ei anafu neu ei fygwth
- Mae trosedd/trafferth yn digwydd nawr
- Mae'r person sy'n cyflawni trosedd yn agos
- Mae tân neu bobl yn gaeth
- Mae rhywun mewn trafferth, neu ar goll, ar y môr
- Mae rhywun mewn trafferth ar y clogwyni neu ar y draethlin.

Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth brys SMS:

I ddarganfod mwy am y gwasanaeth ac i gofrestru, ewch i wefan emergencySMS:
www.emergencysms.org.uk