Cyfarwyddwr Anweithredol
Welsh Ambulance Services NHS Trust
Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae Joga yn gyfreithiwr cyflogaeth profiadol, ar hyn o bryd yn ymarfer yng Nghaerdydd. Mae'n gweithredu ar ran cleientiaid o'r sectorau cyhoeddus, preifat a dielw.
Mae gan Joga dros 15 mlynedd o brofiad o weithio'n agos gydag Aelodau'r Bwrdd ac Uwch Dimau Rheoli mewn perthynas â datblygu sefydliadol, arweinyddiaeth a gweithlu.
Mae'n darparu cyngor strategol, pragmatig a masnachol mewn perthynas â phob agwedd ar gyfraith cyflogaeth.