Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid Gwybodaeth

Hawl i Wybodaeth

Cyflwynwyd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fel bod awdurdodau cyhoeddus, fel y GIG yn cael eu gweld yn agored ac yn dryloyw yn eu prosesau busnes ac yn hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ac yn atebol. Mae’r Ddeddf yn sicrhau bod gan unrhyw berson sy’n gwneud cais am wybodaeth i awdurdod cyhoeddus hawl i-

  1. Cael gwybod yn ysgrifenedig a yw’r awdurdod cyhoeddus yn cadw’r wybodaeth a nodir, a
  2. Os yw hynny'n wir, i gael y wybodaeth honno wedi'i chyfleu iddo.

Mae gwybodaeth ar gael o dan y canlynol:

  • Deddf Diogelu Data - Gwybodaeth Bersonol
  • EIR - Gwybodaeth Amgylcheddol
  • Rhyddid Gwybodaeth - Gwybodaeth Gyffredinol

O dan Adran 19 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) 2000, mae gan yr Ymddiriedolaeth ddyletswydd i fabwysiadu a chynnal Cynllun Cyhoeddi   ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth yn ymwneud â'r Ymddiriedolaeth. Diben y Ddeddf yw hybu mwy o ddidwylledd ymhlith awdurdodau cyhoeddus, y mae'r Ymddiriedolaeth yn un ohonynt.

Mae Cynllun Cyhoeddi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ganllaw i'r wybodaeth a gyhoeddir yn rheolaidd gan yr Ymddiriedolaeth.

O dan y Ddeddf mae gennych hawl i ofyn am ystod o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth. I gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth, anfonwch e-bost at FOI.amb@wales.nhs.uk .

Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

O dan Ddeddf Diogelu Data’r DU 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE, mae gennych hawl i gael mynediad at eich cofnodion clinigol neu unrhyw ddata personol arall a gedwir amdanoch, gan gynnwys gwybodaeth a gedwir mewn fformatau papur ac electronig.

Os dymunwch wneud cais am fynediad i’ch cofnodion dylech gysylltu â’r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth, y Pencadlys yn Llanelwy neu ffonio: 01745 532907.

Os nad ydych yn fodlon â'r wybodaeth a ddarparwyd, gallwch ofyn am adolygiad dilynol gan y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth, neu gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Ymddiriedolaeth.

Os byddwch yn parhau'n anhapus gyda'r ymateb gallwch gyfeirio eich achos yn y pen draw at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth 2il Lawr, Ty Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 02920 678400.

Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth

Os hoffech gopi o gofnod wedi'i archifo, gofynnwch amdano dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) .