Mae ein Ffordd WAST yn nodi sut rydym yn gweithio, yn dod i’r gwaith ac yn arwain yn WAST. Dyma ein dull cyffredin o greu'r diwylliant sydd ei angen arnom i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion, i gymunedau ac i'n gilydd.
Yn WAST, nid teitl swydd yn unig yw arweinyddiaeth, mae'n ymwneud â sut rydym yn dod i’r gwaith bob dydd. Beth bynnag yw ein rôl, rydym i gyd yn dylanwadu ar brofiad cleifion, cydweithwyr a chymunedau, ac mae sut rydym yn ymddwyn yn bwysig.
I gefnogi hyn, rydym wedi adeiladu Ein Ffordd WAST o amgylch tair egwyddor arweiniol syml sy'n llunio sut rydym yn dod i’r gwaith, yn gweithio gyda'n gilydd ac yn darparu gofal ar draws WAST:
• Rydym yn GOFALU - am y rhai rydym yn eu gwasanaethu a'n cydweithwyr
• Rydym yn CYSYLLTU - â phobl a gwasanaethau i ysgogi newidiadau cadarnhaol
• Rydym yn GWERTHFAWROGI PAWB - fel bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cynnwys a'u bod yn gallu gwneud gwahaniaeth