Rydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl ledled Cymru, gan ddarparu gofal clinigol o ansawdd uchel sy'n cael ei arwain gan y claf, lle bynnag a phryd bynnag y bo angen.
Gan weithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, rydym yn derbyn 679,000 o alwadau bob blwyddyn ar gyfer dros 450,000 o ddigwyddiadau yn ein tair Canolfan Gyswllt Glinigol yng Nghymru.
Mae cludiant ar gael i gleifion yng Nghymru sydd angen cyrraedd apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys ac sydd ag angen meddygol penodol.
Gwefan GIG 111 Cymru ddylai fod eich pwynt galw cyntaf. Gallwch wirio eich symptomau ar-lein i dderbyn cyngor a gwybodaeth am ddim, dibynadwy i'ch helpu i gymryd y camau gorau.
Mae gennym dîm cydnerthedd ymroddedig sy'n gweithio i gyflawni'r rhwymedigaethau deddfwriaethol ar yr Ymddiriedolaeth o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil (2004) a deddfwriaeth a chanllawiau cynllunio brys eraill.