Neidio i'r prif gynnwy

Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn

Yn aml, mae gweithwyr brys yn wynebu trais ac ymddygiad ymosodol gan y cyhoedd, gan gynnwys cleifion, eu perthnasau a hyd yn oed gwylwyr.

Mae ymosodiadau'n amrywio o gicio, dyrnu a penio, i boeri, slapio, brathu a cham-drin geiriol.

Nid dim ond y rhai sydd dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau neu'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl sy'n ymosod - yn aml y bobl bob dydd sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa llawn straen ydy.

Ond nid yw ymosod ar weithwyr brys byth yn iawn.

Dywedodd Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae criwiau ambiwlans yno i helpu pobl, ond dydyn nhw ddim yn gallu brwydro dros fywyd rhywun os ydyn nhw'n brwydro dros eu bywyd eu hunain.

"Efallai nad oes gan ein criwiau unrhyw ddewis ond gadael y lleoliad os yw eu diogelwch yn cael ei beryglu, ac nid yw hynny'n ddefnyddiol i unrhyw un, yn enwedig y claf.

"Gallai cam-drin ein trinwyr galwadau ar lafar hefyd oedi cymorth.

"Gall gweithred dreisgar gael effaith ddinistriol a hirdymor ar ein staff, yn gorfforol ac yn emosiynol.

"Nid yw'r ddyled sydd arnom i'n gweithwyr brys erioed wedi bod yn fwy, felly nawr yn fwy nag erioed, rydym yn gofyn i'r cyhoedd eu trin â pharch."

Beth sy'n digwydd pan fydd rhywun yn ymosod ar weithiwr brys?

Gall unrhyw un sy'n ymosod ar weithiwr brys ddisgwyl gwynebu erlyniad.

Yn 2018, dyblwyd uchafswm y ddedfryd o garchar o dan y Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr Brys (Troseddau) y gellid ei rhoi gan y llys ynadon o chwe mis i 12 mis yn y carchar.

Yn 2022, cynyddwyd uchafswm y ddedfryd o garchar y gallai llys y goron ei rhoi i ddwy flynedd.

Sut mae hyn wedi effeithio ar ein staff?

Darllenwch ein hastudiaethau achos isod i ddysgu mwy.

Gallwch gefnogi'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn