O fis Ebrill 2023, mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol ar bob sefydliad GIG yng Nghymru.
Dylai didwylledd a gonestrwydd fod wrth wraidd pob perthynas rhwng y rhai sy'n darparu triniaeth a gofal a'r rhai sy'n ei brofi.
Yn y GIG, rydym yn ymdrechu i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bob un o’n defnyddwyr gwasanaeth. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, gall pobl brofi niwed weithiau. Dyna pam mae gennym y Ddyletswydd Gonestrwydd.
Ein nod yw creu diwylliant o ymddiriedaeth a didwylledd, fel y gallwch deimlo'n hyderus yn y gofal a gewch gennym.
Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i Sefydliadau’r GIG yng Nghymru fod yn agored ac yn onest gyda defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn gofal a thriniaeth. Amlinellir hyn yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol os yw’r gofal a ddarparwn wedi, neu y gallai fod wedi cyfrannu at niwed neu farwolaeth gymedrol neu ddifrifol annisgwyl neu anfwriadol.
Mae’r ddyletswydd hon yn adeiladu ar ein proses Gwrando ar Bobl ar gyfer codi pryderon neu gwynion.
Nid oes angen i chi gysylltu â ni ynghylch y Ddyletswydd Gonestrwydd. Byddwn yn cysylltu â chi os yw'r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol i'ch gofal a'ch triniaeth. Dylech barhau i ddefnyddio ein proses Gwrando ar Bobl ar gyfer codi pryderon neu gwynion.
Dysgwch fwy am y Ddyletswydd Gonestrwydd yn ein taflen y gellir ei lawrlwytho ar ffurf PDF, neu parhewch i ddarllen.
Mae rhagor o wybodaeth am y Ddyletswydd Gonestrwydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.