Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswydd Ansawdd

Mae’r ddyletswydd ansawdd mewn grym o 1 Ebrill 2023.

Mae’n berthnasol i gyrff y GIG yng Nghymru. Mae hefyd yn gymwys i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'u swyddogaethau iechyd.

Mae ganddo ddau nod trosfwaol:

  • Gwella ansawdd gwasanaethau iechyd
  • Gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru.

Mae’r ddyletswydd ansawdd yn berthnasol i bopeth a wnawn yn GIG Cymru, p’un a ydym yn gweithio mewn rolau clinigol neu wasanaethau anghlinigol.

Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i gyflawni gwell ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau ar gyfer ein poblogaeth.

Mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal wedi'u datblygu i'n helpu i wreiddio'r ddyletswydd ansawdd yn ein gwaith. Mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal yn cynnwys chwe pharth ansawdd a chwe galluogydd ansawdd.

Visual representation of the Health and Care Quality Standards. These include six domains of quality which are Safe, Timely, Effective, Efficient, Equitable and Person Centre. Also included are the six quality enablers.

Mae fideo esboniadol byr ar gael isod i egluro beth mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn ei olygu i bob un ohonom.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddyletswydd Ansawdd, gan gynnwys y canllawiau statudol y mae'n ofynnol i'r GIG eu dilyn, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru .

Gwybodaeth genedlaethol am ansawdd gwasanaethau iechyd

Mae ffynonellau defnyddiol o wybodaeth genedlaethol am ansawdd gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn cynnwys:

  • Gwefan StatsCymru sy'n darparu ystadegau cenedlaethol am Berfformiad a Gweithgarwch y GIG.

Dyletswydd Ansawdd