Beth yw Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol?
Mae'r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol (VCS) yn rhan amhrisiadwy o'r Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng. Mae'n cynnwys tîm o yrwyr gwirfoddol ymroddedig ledled Cymru sy'n defnyddio eu ceir eu hunain ac yn rhoi o'u hamser yn rhydd i helpu i gludo miloedd o gleifion i ac o apwyntiadau ysbyty fel dialysis arennol, oncoleg a chleifion allanol.
Mae Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gleifion ledled Cymru sy’n dibynnu arnynt am gludiant i ac o’u hapwyntiadau meddygol. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn cludo cleifion rheolaidd a gallant ddatblygu perthynas gref â nhw. I’r gyrwyr eu hunain, gall y profiad fod yn werth chweil ac rydym yn gwybod cymaint mae ein cleifion yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth.
Mae gyrwyr VCS yn teithio miliynau o filltiroedd ledled Cymru bob blwyddyn ac yn darparu cludiant i'r cleifion hynny sy'n gallu teithio mewn car. Mae'r oriau gwaith yn hyblyg a thelir treuliau i wirfoddolwyr ar ffurf lwfans milltiredd o 40c y filltir, i dalu am yr holl filltiroedd a wneir ar ran y Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng.
Dod yn Yrrwr Gwasanaeth Car Gwirfoddol:
Rydym bob amser yn awyddus i recriwtio mwy o bobl i’r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol ledled Cymru ac annog ceisiadau gan unrhyw un sydd ag awydd i helpu pobl ac sy’n barod i gynnig eu hamser sbâr.
Byddai disgwyl i Yrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol gludo cleifion symudol rhwng eu cartrefi a'u hysbytai i fynychu apwyntiadau meddygol. Gallai hyn naill ai olygu teithiau lleol neu bell i ysbytai ledled Cymru a Lloegr.
Amdanat ti:
Os yw hyn yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, yna hoffem glywed gennych!
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol e-bostiwch: enquiries.vcs@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn Yrrwr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol, cysylltwch â Gweinyddwr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol eich ardal:
Rhanbarth y Gogledd: Cheryl Hunter 07966344551 / Elaine Gardiner 07966344572 amb_acs_hq@wales.nhs.uk
Rhanbarth y Canolbarth a’r Gorllewin: Rachel Williams 07823 580808 Rachel.Williams39@wales.nhs.uk
Rhanbarth y De Ddwyrain: Rachel Leighfield 07384 457036 Rachel.Leighfield@wales.nhs.uk