Neidio i'r prif gynnwy

Ymholiadau Cyfreithwyr

Gall claf awdurdodi ei Gyfreithiwr i wneud cais am y wybodaeth sydd gennym sy’n cael ei drin fel pe bai wedi’i gwneud gan y claf ei hun – mae’r Cyfreithwyr i bob pwrpas yn gweithredu ar ran y claf.

Wrth wneud cais am gofnodion meddygol claf, dylai’r Cyfreithiwr ddarparu’r canlynol:

  • Ffurf ysgrifenedig o awdurdod wedi'i lofnodi gan y cleient.
  • Enw'r claf, amser a dyddiad y digwyddiad, union leoliad, yr ysbyty a gludwyd iddo. Sylwch fod y Tîm Gwasanaethau Cofnodion ac Archifau bellach yn gweithio o bell. O ganlyniad efallai y bydd oedi pe baech yn anfon eich cais drwy'r Post Brenhinol. Gallwn eich sicrhau y bydd pob cais yn cael ei reoli hyd eithaf ein gallu o fewn yr amseroedd ymateb arferol o 30 diwrnod calendr o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU.

Dylid gwneud pob cais trwy e-bost i amb.records@wales.nhs.uk neu cysylltwch â'r Tîm ar 0300 123 2310. Bydd pob cofnod yn cael ei anfon trwy e-bost diogel.

Os na allwch anfon y cais trwy e-bost, anfonwch at

Tîm Gwasanaethau Cofnodion ac Archifau
Ymddiriedolaeth GIG Brifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Ty Elwy, Uned 7
Ffordd Richard Davies
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
LL17 0LJ

Cyfreithwyr yn codi hawliad

Efallai y bydd angen i gyfreithwyr gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol o bryd i’w gilydd i godi hawliad.

Mae’r manylion cyswllt fel a ganlyn:

Ffôn: 0300 321 3211

Cyfeiriad e-bost: amb_legalservices@wales.nhs.uk

Cyfeiriad post:

Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol
Ty Elwy
Uned 7 Ffordd Richard Davies
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL15 2NG