Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi datblygu saith ymddygiad newydd ar gyfer ein tîm, er mwyn sicrhau y gallwn fod EIN GORAU bob amser.
Ar ôl gwrando ar adborth gan ein cymunedau, rhanddeiliaid, a’n 4,000 o gydweithwyr ar draws WAST, rydym yn fwy ymroddedig nag erioed i wella ein dyfodol a chroesawu ffyrdd newydd o weithio.
Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd, ond mae pob un o’n cydweithwyr wedi mynd gam ymhellach i roi’r gofal gorau posibl i’n cleifion, yn ogystal â chefnogi aelodau’r tîm.
Aberthodd pawb lawer i sicrhau y gallem fod EIN GORAU bob amser.
Rhoddasoch y gefnogaeth orau i'ch cleifion, eich cydweithwyr, eich teulu a'ch ffrindiau.
Diolch i'ch tosturi, eich gwytnwch, a'ch dycnwch, rydyn ni wedi cyrraedd yr ochr arall ac mae golau ym mhen draw'r twnnel.