Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu amdanoch chi mewn amgylchedd glân

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi mabwysiadu’r athroniaeth sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru sef bod dull dim goddefgarwch tuag at Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd wedi’i ymgorffori mewn arferion gwaith dyddiol.

Mae atal a rheoli heintiau yn gyfrifoldeb ar bob aelod o’n staff, yn enwedig y rhai sy’n trin ac yn wynebu cleifion. Rydym wedi ymrwymo ac yn sicrhau eich bod yn agored i amgylchedd glân, diogel a modern, a thrwy hynny sicrhau'r safonau uchaf o atal a rheoli heintiau bob amser.

Wrth fynd i’r afael ag atal heintiau, fel clostridium difficile, MRSA a norofeirws, rydym yn dilyn polisïau a gweithdrefnau llym.

Gallwch gael gwybodaeth am yr heintiau hyn a beth allwch chi ei wneud i'w hatal trwy glicio ar y dolenni isod:

Er mwyn cyflawni hyn rydym yn ehangu ein system o 'Depos Parod' ledled Cymru. Agorwyd ein Depo Parod cyntaf yn 2012 ac erbyn hyn mae gennym bedwar, dau yn y Gogledd a dau yn y De gyda mwy yn yr arfaeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae'r depos hyn sy'n cael eu rhedeg gan staff ymroddedig yn sicrhau bod ein cerbydau'n cael eu glanhau a'u stocio'n effeithlon gan ddilyn safonau glanhau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am Bolisïau'r IPC cysylltwch ag AMB_Policies@wales.nhs.uk.