Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cydnabod y gall pobl sy’n dod i gysylltiad â’n gwasanaethau fod yn agored i niwed neu anghenion llesiant yn ogystal â’r gofal clinigol a ddarparwn. Gall y gofynion ychwanegol hyn amrywio o anghenion gofal cymdeithasol i amddiffyniad rhag niwed a gallant effeithio ar blant ac oedolion nad ydynt yn gallu amddiffyn eu hunain rhag niwed.

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn bartneriaid statudol gydag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd ac asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill fel y’u diffinnir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r canllawiau a gweithdrefnau dilynol. Ynghyd â sefydliadau eraill ledled Cymru, mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau ein bod yn mynd ati i atal plant, pobl ifanc ac oedolion rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso; a diogelu'r rhai sydd mewn perygl o niwed. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n profi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn ein cymunedau. Rydym yn bartner gweithredol yn y gwaith o leihau’r niwed a achosir gan y mathau hyn o drais a gyflawnir yn erbyn pawb yng Nghymru, beth bynnag fo’u rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.


Am gyngor a chefnogaeth:

Gwefan Llywodraeth Cymru yw Byw Heb Ofn , sy’n darparu gwybodaeth a chyngor i’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod. Mae gwefan Byw Heb Ofn ar gael yn www.bywhebofn.llyw.cymru . Gallwch hefyd gysylltu â Byw Heb Ofn dros y ffôn neu drwy e-bost: info@livefearfreehelpline.wales .

Mae’r Tîm Diogelu yn cefnogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i sicrhau bod gofynion canllawiau Amddiffyn Oedolion a Phlant Deddfwriaethol a Llywodraeth Cymru yn cael eu bodloni.

Mae’r Tîm ymroddedig a phrofiadol yn darparu hyfforddiant ac yn darparu cymorth i’n hymarferwyr gyflawni eu dyletswyddau statudol i ddiogelu ac amddiffyn lles y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae'r Tîm yn cyd-fynd ag ardaloedd Byrddau Iechyd ac ardaloedd ledled Cymru; hwyluso adrodd am bryderon, cefnogi asiantaethau partner i ymchwilio i gamdriniaeth neu esgeulustod a chyfrannu at ddatblygu arferion a gweithdrefnau diogel ledled y wlad.


Beth i'w wneud os ydych yn pryderu am blentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg

Mae gan aelodau’r cyhoedd ran bwysig i’w chwarae wrth helpu i amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed neu mewn perygl o niwed.

Peidiwch â meddwl beth os ydw i'n anghywir, meddyliwch beth os ydw i'n iawn.

Os ydych yn gwybod bod plentyn neu oedolyn sy’n agored i niwed mewn perygl o gael ei gam-drin neu’n cael ei gam-drin, mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’ch gwasanaethau cymdeithasol lleol neu’n ffonio 101 ac yn rhoi gwybod i’r heddlu.

Os ydynt mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y Gwasanaethau Brys ar unwaith ar 999 . Os na, ffoniwch eich Gwasanaethau Cymdeithasol lleol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

Pwy arall all helpu?


Mae Barnardo's Cymru yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau sy'n agored i niwed, gan eu helpu i adeiladu dyfodol gwell. Gwefan: www.barnardos.org.uk/cyrmu

 

 

Mae Childline yn darparu cymorth i unrhyw un o dan 19 oed yn y DU gydag unrhyw fater y maent yn mynd drwyddo. Gwefan: www.childline.org.uk .

 

 

 

Mae ECPAT UK yn sefydliad hawliau plant blaenllaw sy'n gweithio i amddiffyn plant rhag masnachu mewn plant a chamfanteisio trawswladol ar blant. Gwefan: www.ecpat.org.uk

 

 

Mae Action on Elder Abuse (AEA) Cymru yn elusen arbenigol sydd wedi ymrwymo i atal cam-drin
yn erbyn pobl hŷn. Fel yr unig elusen yng Nghymru i ganolbwyntio ar gam-drin pobl hŷn yn unig, mae gennym yr arbenigedd a’r profiad i gefnogi dioddefwyr, eu teuluoedd a’r rhai sy’n gofalu amdanynt. Rhif y llinell gymorth: 080 8808 8141. Gwefan: www.elderabuse.org.uk/cymru .

 

Mae'r Llinell Arian yn llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim, sy'n darparu gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn. Ar agor bob dydd o'r flwyddyn. Ffôn: 0800 4 70 80 90 . Gwefan: www.thesilverline.org.uk  


Ffoniwch 08000 121 700 i gael cymorth, i roi gwybod am amheuaeth neu i ofyn am gyngor. Gwefan: www.modernslaveryhelpline.org/

 

Mae gweithwyr cymorth Bawso yn gweithio gyda goroeswyr i greu cynlluniau cymorth unigol, a all gynnwys cymorth ariannol, cymorth i gael mynediad at wasanaethau a thriniaeth iechyd, cwnsela arbenigol, cyngor cyfreithiol troseddol a mewnfudo, cyfleoedd addysg a chyflogaeth a chymorth arall yn ôl yr angen. Mae Bawso yn darparu llety i ddynion a merched fel rhan o'u cefnogaeth. Gallant hefyd weithio ar sail allgymorth gyda'r rhai nad oes angen llety arnynt. Os oes angen cymorth arnoch gallwch gysylltu â Gweithiwr Cynghori ar 029 20644633 neu 0800 7318147 . Gwefan: www.bawso.org.uk/

 

Dogfennau Deddfwriaeth Allweddol:

Gwasanaethau eiriolaeth

Os nad ydych yn hapus â'r gofal yr ydych wedi'i gael gan y gwasanaeth ambiwlans efallai y byddwch am siarad ag eiriolwr. Mae eiriolwr yn rhywun a all eich helpu i godi llais a sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed. Gallant roi cymorth, gwybodaeth a chyngor i chi a'ch helpu i wneud cwyn os dymunwch. Mae eiriolwr yn annibynnol ar y gwasanaeth iechyd a bydd yn siarad â chi yn gyfrinachol. Mae gennych hawl i eiriolwr yn rhad ac am ddim.

I drefnu eiriolwr mae angen i chi gysylltu â'ch Bwrdd Iechyd lleol, dewch o hyd i'r manylion cyswllt yma.

in Hefyd, os oes angen mwy o gyngor neu gymorth arnoch, gallwch ffonio MEIC y llinell eiriolaeth a chymorth genedlaethol i blant a phobl ifanc ar 080880 23456 neu ar-lein yn www.meiccymru.org .