Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn monitro perfformiad y GIG drwy fesurau a safonau amrywiol.
Un o'r ffyrdd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn monitro perfformiad yw drwy gyhoeddi Fframwaith Gweithredu Blynyddol bob blwyddyn. Cyhoeddwyd y Fframwaith Gweithredu Blynyddol (AOF) am y tro cyntaf yn 2007/2008 ac mae'n nodi disgwyliadau'r GIG o fewn unrhyw un flwyddyn ariannol. Mae'n cynnwys y targedau cenedlaethol, a elwid gynt yn dargedau Fframwaith Gwasanaeth a Chyllid (SaFF), Mesurau Effeithlonrwydd a Chynhyrchiant yn ogystal â gofynion gwasanaeth ychwanegol.
Yn ogystal, mae Safonau Gofal Iechyd Cymru yn nodi fframwaith cyffredin Llywodraeth Cynulliad Cymru o safonau gofal iechyd i gefnogi'r GIG a sefydliadau partner i ddarparu gwasanaethau effeithiol, amserol ac o safon ar draws pob lleoliad gofal iechyd.
Yn fewnol, cyflwynir ystod eang o adroddiadau ariannol a pherfformiad o bob cyfarwyddiaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth i'w cynnwys ym Mhapurau Bwrdd yr Ymddiriedolaeth ar sail ddeufis. Gellir cael rhagor o wybodaeth o Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth .