Pam gwirfoddoli i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru?
Dyma'ch cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, amlwg yn eich cymuned leol. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, gwella eich cyfleoedd gyrfa a dysgu sgiliau achub bywyd.
Ein gweledigaeth ar gyfer gwirfoddoli yw:
• Bydd ein gwirfoddolwyr yn ychwanegu gwerth at brofiad y defnyddiwr a'r gofal a ddarparwn.
• Bydd ein gwirfoddolwyr yn cael profiad sy'n rhoi boddhad personol ac yn gwybod bod eu cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth.
• Bydd ein hymagwedd at wirfoddoli yn cryfhau'r cyfraniad a wnawn at wydnwch cymunedol.
Gallwch ddarllen am y Strategaeth Gwirfoddoli yma .
Sut gallaf wirfoddoli?
Mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli o fewn Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae ein rolau gwirfoddol yn cynnwys:
- Ymatebwyr Cyntaf y Gymuned
Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi a'u hanfon gan y gwasanaethau ambiwlans yn eu cymunedau lleol. Maent yn darparu triniaeth a chymorth achub bywyd hanfodol yn y munudau hollbwysig hynny cyn i griw’r ambiwlans gyrraedd.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth .
- Gwirfoddolwyr Lles Cymunedol
Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi a'u hanfon gan y gwasanaethau ambiwlans yn eu cymunedau lleol. Maent yn darparu arsylwadau lles a chlinigol ar gleifion yn y gymuned gan gefnogi clinigwyr yn ein Canolfannau Cyswllt Clinigol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth .
- Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol
Mae gwirfoddolwyr yn darparu wyneb a chwmni cyfeillgar i gleifion yn ogystal â chludiant diogel, cyfforddus a dibynadwy i'w hapwyntiadau gofal iechyd.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth .
Gwirfoddolwr Caplaniaeth Mae gwirfoddolwyr caplaniaeth yn cynnig cymorth i bawb yn y gwasanaeth ambiwlans; pobl o ffydd neu ddim ffydd, beth bynnag yw eu credoau. Fel tîm maent yn cynnig cyfeillgarwch, cefnogaeth gyfrinachol, emosiynol ac ysbrydol neu yn syml glust i wrando.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Victoria Evans -
victoria.evans7@wales.nhs.uk .
Pwy all wneud cais?
• Ydych chi'n mwynhau her?
• Ydych chi'n falch o'r gymuned rydych chi'n byw ynddi ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl?
• Oes gennych chi amser rhydd i'w sbario? Bydd disgwyl i wirfoddolwyr ddarparu isafswm o oriau o wirfoddoli bob mis (16 awr pro rata ar hyn o bryd).
• Ydych chi dros ddeunaw oed, yn dal trwydded yrru lawn gydag uchafswm o 3 phwynt cosb ac yn gallu defnyddio car?
Os gallwch chi ateb 'ydw' i'r rhain, yna efallai y bydd y cyfle gwirfoddoli hwn yn berffaith i chi.
Ymholiadau gwirfoddoli a chymorth cymunedol, ffôn: 0300 1311 392.
Beth yw manteision gwirfoddoli?
Os ydych yn meddwl tybed pam y dylech wirfoddoli, ystyriwch sut y gall y profiad hwn nid yn unig fod o fudd i chi ond hefyd i'ch cymuned.
- Yn darparu ymdeimlad o bwrpas
- Yn darparu ymdeimlad o gymuned
- Yn eich helpu i gwrdd â ffrindiau newydd
- Yn cynyddu eich sgiliau cymdeithasol
- Yn gwella hunan-barch
- Yn dysgu sgiliau gwerthfawr i chi
- Yn darparu rhagolygon swyddi
Dewch o hyd i'ch sedd yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru.