Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod ein cleifion wrth galon popeth a wnawn, felly ar draws yr Ymddiriedolaeth mae 'Hyrwyddwyr Urddas' o wahanol ranbarthau a disgyblaethau yn cydweithio i wella profiad y claf.
Mae'r cynllun yn adlewyrchu ein gwerthoedd a'n hymddygiad ac yn cymryd i ystyriaeth y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, y byddwn yn dod i gysylltiad â nhw bob dydd.
Trwy'r gwaith hwn, ein nod yw cynnal gwerthoedd urddas a pharch i gleifion, herio gofal gwael a gweithio i wella'r meysydd hynny y mae cleifion yn teimlo eu bod yn bwysig.
Edrychwch ar ein Cynllun Urddas Mewn Gofal .