Bob blwyddyn rydym yn derbyn 679,000 o alwadau am dros 450,000 o ddigwyddiadau yn ein tair Canolfan Cyswllt Clinigol yng Nghymru.
Gan weithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn bydd ein derbynwyr galwadau yn cymryd manylion eich galwad 999 ac yn anfon ymateb priodol.
Rydym yn darparu nifer o ymatebion gan gynnwys ambiwlansys brys traddodiadol, cerbydau ymateb cyflym, cerbydau gofal brys, ymatebwyr cyntaf gwirfoddol, hofrennydd ambiwlans awyr, timau arbenigol neu hyd yn oed parafeddyg ar gefn beic yn rhai o'n dinasoedd. Gyda’i gilydd, mae gennym dros 300 o gerbydau wedi’u lleoli mewn 90 o orsafoedd ambiwlans ledled Cymru. Fel arall, gall clinigwr yn ein Canolfannau Cyswllt Clinigol eich ffonio'n ôl a'ch asesu dros y ffôn.
Mae ein criwiau yn weithwyr proffesiynol medrus iawn sy'n gallu trin a sefydlogi cleifion cyn mynd â nhw i'r ysbyty mwyaf priodol os oes angen. Mae'r ambiwlansys eu hunain yn rhai o'r radd flaenaf ac yn dal ystod eang o offer gofal brys gan gynnwys ocsigen, diffibriliwr, offer achub bywyd uwch a chyffuriau brys gan gynnwys lleddfu poen.
Nid yw llawer o'r galwadau a gawn yn argyfyngau sy'n bygwth bywyd.
Arhoswch a meddyliwch cyn ffonio 999.
Pan fyddwch yn ffonio 999 bydd gweithredwr ffôn yn gofyn pa wasanaeth brys sydd ei angen arnoch. Mewn argyfwng meddygol dylech ofyn am ambiwlans a byddwch yn cael eich trosglwyddo i un o'n Canolfannau Cyswllt Clinigol.
Bydd angen i chi ddweud wrthym beth sy'n bod a beth sydd wedi digwydd, y cyfeiriad lle mae angen cymorth, gan gynnwys y man postio os ydych yn ei wybod, a'r rhif ffôn yr ydych yn ffonio ohono.
Unwaith y bydd y wybodaeth hon wedi'i rhoi, caiff ei rhoi ar ein system ddosbarthu flaenoriaeth gyfrifiadurol a bydd cymorth priodol yn dechrau cael ei drefnu. Fodd bynnag, bydd angen i'r anfonwr meddygol brys ofyn rhai cwestiynau ychwanegol gan gynnwys:
Ni fydd gofyn y cwestiynau hyn yn achosi oedi wrth drefnu cymorth ond mae'n galluogi'r anfonwr meddygol brys i gynnig cyngor os oes angen a sicrhau y darperir y cymorth mwyaf priodol.
Byddwch hefyd yn cael gwybod sut i helpu'r claf tra byddwn ar y ffordd.
Pan fydd cymorth yn cyrraedd, bydd cyflwr clinigol y claf yn cael ei asesu a gellir rhoi triniaeth yn ôl yr angen yn y lleoliad.
Os yw cyflwr y claf yn dal yn ddifrifol ar ôl y driniaeth, yna eir ag ef naill ai i adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty agosaf neu i'r ganolfan arbenigol fwyaf priodol megis canolfan trawiad ar y galon neu uned losgiadau.
Ar ôl trosglwyddo'r claf i'r gyrchfan hon, mae angen i'r criw sicrhau bod y gwaith papur yn gyflawn a bod eu hoffer a'u cerbyd yn barod ar gyfer galwad arall.