Bydd eich adborth yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi. Os yw eich adborth yn ymwneud â gwasanaeth penodol a ddarparwn, soniwch am ba un, er enghraifft, ymateb brys 999, neu gludiant i apwyntiadau, neu gysylltu â GIG 111 Cymru.
Nid yw'r adran hon yn briodol os hoffech fynegi pryder/cwyn am y gwasanaeth. Gweler ein hadran Gweithio i Wella am ragor o wybodaeth.
Os ydych wedi teithio'n ddiweddar gyda'n Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng ac yr hoffech roi adborth i ni ar eich profiad, gweler ein hadran NEPTS Dywedwch Wrthym Sut Gwnaethom Ni.
Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn croesawu canmoliaeth o brofiadau diweddar, gan eu bod yn cynnig y cyfle i ni ddysgu a rhannu enghreifftiau o arfer da, gofal cleifion eithriadol a straeon newyddion da. Os hoffech ganmol gwasanaeth, aelod o staff neu dîm gallwch roi gwybod i ni drwy’r ffyrdd canlynol:
Ymdrinnir â chanmoliaeth gan ein tîm Profiad y Claf a Chynnwys y Gymuned (PECI). I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y maent yn ei wneud, cliciwch yma .