Croeso i Strategaeth a Chynllun Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Trin Pobl yn Deg . Drwy wrando ar ein defnyddwyr gwasanaeth, cydweithwyr, partneriaid a rhanddeiliaid eraill, rydym wedi dysgu o'n Cynllun Trin Pobl yn Deg cyntaf (2012-16). Felly, mae’r ail fersiwn hwn o’n strategaeth yn cynnwys ein hymagwedd at Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol, rhai enghreifftiau o’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud dros y pedair blynedd nesaf a chamau corfforaethol penodol yn ogystal â rhai lleol o bob rhan o Gymru.
Mae'r holl gamau gweithredu yn rhan annatod o'n Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan hon.
Mae Trin Pobl yn Deg ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a gellir darparu fersiynau hygyrch eraill ar gais.
Yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru ein gweledigaeth yw dod yn wasanaeth ambiwlans i bobl Cymru sy’n darparu gofal o ansawdd uchel lle bynnag a phryd bynnag y mae ei angen. Bydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn a’n Hamcanion Cydraddoldeb Strategol yn rhan annatod o gyflawni ein gweledigaeth ac wrth i ni lansio Trin Pobl yn Deg rydym yn cydnabod cyfraniad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i les ein gweithlu, ein cleifion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Byddwn yn parhau i wrando a dysgu fel ein bod yn parhau i wella'r hyn yr ydym yn ei wneud fel y gallwn drin pobl yn deg. Ar ein gorau, rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i ddeall cymunedau lleol a’u hanghenion yn ogystal â’r rhai nad yw eu llais yn cael ei glywed bob amser.
Bydd hyn yn parhau i roi tystiolaeth i ni ledled Cymru sy’n ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl a’r gweithle tecaf posibl. Hoffem glywed eich barn a'ch teimladau am ein Hymddiriedolaeth. Anfonwch e-bost at peci.team@wales.nhs.uk .
Edrychwn ymlaen at rannu ein llwyddiannau a'n dysg wrth i'r Ymddiriedolaeth 'drin pobl yn deg'.