Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) yn gwerthfawrogi barn cleifion a'r cyhoedd a hoffai i bobl gymryd rhan ym mhob agwedd ar y gwasanaeth.
Gall hyn gynnwys:
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi roi adborth i ni, rhannu eich barn a chymryd rhan.
Rhoi adborth, neu wneud awgrym, am unrhyw un o’n gwasanaethau, gan gynnwys Gwasanaethau Meddygol Brys, Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng a GIG 111 Cymru.
Ewch i'n tudalen Dweud Eich Dweud .
Rhannwch eich profiad o ddefnyddio ein gwasanaethau trwy gwblhau arolwg byr.
Ewch i'n tudalen Rhowch Eich Barn i Ni .
Rydyn ni'n defnyddio'ch straeon a'ch profiad i ddeall sut deimlad yw bod yn ddefnyddiwr ein gwasanaethau.
Mae Rhwydwaith Pobl a Chymunedau yn grŵp o bobl sydd â nod cyffredin: helpu i ddatblygu a gwella gwasanaethau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae aelodau’r Rhwydwaith yn gleifion, yn ofalwyr, yn ddefnyddwyr gwasanaeth, ac yn bobl o Gymru sydd ag ystod eang o leisiau, syniadau a phrofiadau.
Fel aelod o’r Rhwydwaith, gallwch gymryd rhan mewn llawer o wahanol weithgareddau:
Ymunwch â'r Rhwydwaith, neu darganfyddwch fwy, ar ein tudalen Rhwydwaith Pobl a Chymunedau .