Fel Ymddiriedolaeth ambiwlans, rydym yn hyrwyddo ac yn cynnal egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), yn arbennig;
• Erthygl 28: ‘Hawl i addysg’
• Erthygl 29: ‘…hyrwyddo eich hawliau a’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch doniau i’r eithaf’
• Erthygl 31: ‘Hawl i chwarae’
Wrth ofalu am blant a phobl ifanc, rydym nid yn unig yn parchu eu hawliau ond hefyd yn ymdrechu i greu profiadau cadarnhaol ar eu cyfer. Rydym hefyd yn anelu at ddylanwadu ar ymddygiad cadarnhaol a grymuso’r genhedlaeth nesaf i ddod yn aelodau gwydn a chyfrannol o’r gymuned trwy ein hymgysylltiad wyneb yn wyneb, adnoddau ar-lein ac ymgyrchoedd blynyddol.