Neidio i'r prif gynnwy

Eich Gwybodaeth Eich Hawliau

Pam mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth amdanoch chi? - I'ch helpu chi.

Mae llawer o sefydliadau'r GIG fel Ysbytai, Meddygon Teulu, Deintyddion, Optegwyr a Fferyllwyr Cymunedol yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl Cymru.

Nod y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hyn yw darparu gofal o'r ansawdd uchaf i chi. Er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid i ni gadw cofnodion am eich iechyd ac unrhyw driniaeth neu ofal a ddarparwn i chi. Rydym yn cadw eich gwybodaeth ar gyfrifiadur neu mewn cofnod ysgrifenedig, weithiau mae yn y ddau. Mae'r cofnodion hyn yn helpu i arwain a rheoli'r gofal a gewch. Mae hyn er mwyn sicrhau bod:

  • bod gan y bobl sy'n ymwneud â'ch gofal wybodaeth gywir a chyfredol i asesu'ch iechyd a phenderfynu pa driniaeth neu ofal sydd ei angen arnoch, a phryd a ble y byddwch yn ei dderbyn. Gallant fod yn rhan o'r tîm gofal iechyd neu'r gwasanaeth cymorth sy'n darparu eich gofal
  • fe'ch gwahoddir i dderbyn triniaeth arferol fel imiwneiddiadau a rhaglenni sgrinio perthnasol
  • bod sail dda ar gyfer asesu'r math o ofal a'r ansawdd a gawsoch. Bydd hyn yn arwain at well gofal i chi a chleifion eraill yn y dyfodol
  • os oes angen i chi gwyno am y driniaeth neu'r gofal a gewch, gellir ymchwilio'n briodol i'ch pryderon neu'ch cwynion

Pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn sicrhau bod hyn yn cael ei brosesu yn unol ag o leiaf un o’r seiliau cyfreithiol sydd ar gael i ni o dan ddeddfwriaeth diogelu data.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen GIG Cymru 'Eich Gwybodaeth Eich Hawliau' .

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Claf.

Sylwer: Os ydych yn breswylydd yng Nghymru sydd wedi cael eich trin gan ddarparwr gofal y GIG yn Lloegr, bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu yn ôl i GIG Cymru i’w dilysu a’i chydgrynhoi â’ch gwybodaeth a gedwir yng Nghymru. Bydd y wybodaeth honno'n cael ei defnyddio gan y Bwrdd Iechyd / Ymddiriedolaeth i'ch adnabod chi ac i ddilysu pa ofal a ddarparwyd.