Cedwir cofnodion iechyd ar bapur ac yn electronig ac mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gadw’r rhain yn gyfrinachol, yn gywir ac yn ddiogel bob amser yn unol â Chyfreithiau Diogelu Data.
Mae ein staff wedi’u hyfforddi i drin eich gwybodaeth yn gywir er mwyn diogelu eich preifatrwydd. Ein nod yw cynnal safonau uchel, mabwysiadu arfer gorau ar gyfer ein cofnodion a gwirio ac adrodd yn rheolaidd ar ein perfformiad. Nid yw eich gwybodaeth byth yn cael ei chasglu at ddibenion marchnata uniongyrchol, ac ni chaiff ei gwerthu ymlaen i unrhyw drydydd parti arall.
Weithiau gall eich gofal gael ei ddarparu gan aelodau o dîm gofal, a allai gynnwys pobl o sefydliadau eraill megis iechyd; gofal cymdeithasol; sefydliadau addysg neu ofal eraill.
Cedwir gwybodaeth am gyfnodau penodol o amser fel y nodir yn y Cod Ymarfer Rheoli Cofnodion ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae gwybodaeth a gesglir amdanoch chi i ddarparu eich gofal iechyd hefyd yn cael ei defnyddio i gynorthwyo gyda:
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data at y dibenion hyn yw bod y GIG yn awdurdod swyddogol sydd â dyletswydd gyhoeddus i ofalu am ei gleifion, ac yn rheoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â defnyddio eich gwybodaeth yn y modd hwn. Fodd bynnag, mae yna eithriadau i hyn a restrir isod.
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio darparwyr allanol neu broseswyr data sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU. Os caiff eich data ei drosglwyddo y tu allan i’r DU, byddwn yn sicrhau yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data mai dim ond pan fydd rheoliad digonolrwydd neu fesurau diogelu priodol eraill yn eu lle y caiff y data ei drosglwyddo.
Mae cyfreithiau Diogelu Data yn rhoi hawliau i unigolion o ran y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Mae rhain yn:
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn agored ac yn dryloyw ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio a’i rannu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yn:
Swyddog Diogelu Data, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Tŷ Elwy, Ffordd Richard Davies, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0LJ
E-bost: amb.infogov@wales.nhs.uk
Os ydych yn dal yn anhapus gyda chanlyniad eich ymholiad gallwch ysgrifennu at:
Y Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer SK9 5AF
Ffôn: 01625545700