Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswydd Gonestrwydd

O fis Ebrill 2023, mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol ar bob sefydliad GIG yng Nghymru.

Dylai didwylledd a gonestrwydd fod wrth wraidd pob perthynas rhwng y rhai sy'n darparu triniaeth a gofal a'r rhai sy'n ei brofi.

Yn y GIG, rydym yn ymdrechu i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bob un o’n defnyddwyr gwasanaeth. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, gall pobl brofi niwed weithiau. Dyna pam mae gennym y Ddyletswydd Gonestrwydd.

Ein nod yw creu diwylliant o ymddiriedaeth a didwylledd, fel y gallwch deimlo'n hyderus yn y gofal a gewch gennym.

Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i Sefydliadau’r GIG yng Nghymru fod yn agored ac yn onest gyda defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn gofal a thriniaeth. Amlinellir hyn yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.

Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol os yw’r gofal a ddarparwn wedi, neu y gallai fod wedi cyfrannu at niwed neu farwolaeth gymedrol neu ddifrifol annisgwyl neu anfwriadol.

Mae’r ddyletswydd hon yn adeiladu ar ein proses Gweithio i Wella ar gyfer codi pryderon neu gwynion.

Nid oes angen i chi gysylltu â ni ynghylch y Ddyletswydd Gonestrwydd. Byddwn yn cysylltu â chi os yw'r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol i'ch gofal a'ch triniaeth. Dylech barhau i ddefnyddio ein proses Gweithio i Wella ar gyfer codi pryderon neu gwynion.

Dysgwch fwy am y Ddyletswydd Gonestrwydd yn ein taflen y gellir ei lawrlwytho ar ffurf PDF, neu parhewch i ddarllen.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddyletswydd Gonestrwydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.