Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i weithio tuag at ddarparu gwasanaeth cyhoeddus dwyieithog. Mae hyn yn cefnogi gweledigaeth Comisiynydd y Gymraeg i’r Gymraeg fod yn ganolog i fywyd bob dydd yng Nghymru a chreu cymdeithas lle gellir defnyddio’r Gymraeg mewn nifer cynyddol o gyd-destunau.
Mae Mesur y Gymraeg a ddeddfwyd yn 2011 yn sicrhau statws cyfartal i’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg. Mae’r ddeddf hon yn creu rôl Comisiynydd y Gymraeg ac yn cyflwyno nifer o Safonau’r Gymraeg. Mae manylion y Safonau y mae gan yr Ymddiriedolaeth ddyletswydd i gydymffurfio oddi tanynt i'w gweld yma:
Hysbysiad Cydymffurfio Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.