Neidio i'r prif gynnwy

Mwy Na Geiriau

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cydnabod mai dim ond trwy gyfrwng eu hiaith gyntaf y gall llawer o bobl gyfathrebu eu hanghenion gofal yn effeithiol, sef Cymraeg i tua un rhan o bump o'n poblogaeth. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau urddas a pharch i ddiwallu anghenion cyfathrebu siaradwyr Cymraeg fel rhan naturiol o’u gofal. Nid yw pawb sy'n gweithio i'r Ymddiriedolaeth yn siarad Cymraeg, fodd bynnag, rydym i gyd wedi ymrwymo i ymdrin ag anghenion cyfathrebu pawb sy'n dod i gysylltiad â'r gwasanaeth. Ni fydd rôl y di-Gymraeg yn cael ei thanbrisio gan fod gan bawb rôl bwysig i sicrhau gwasanaeth o safon uchel.

Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd tuag at gynyddu’r dull cynnig gweithredol fel rhan annatod o’r broses o ddarparu gwasanaethau.

Rydym yn cydnabod bod cynnig yr hawl i ddewis pa iaith i'w defnyddio wrth ymdrin â'r Ymddiriedolaeth yn fater o angen i rai pobl ac yn fater o ddewis i bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Lle mae anghenion cyfathrebu siaradwyr Cymraeg wedi'u nodi, mae'r Ymddiriedolaeth yn mabwysiadu dull tîm i ddiwallu'r anghenion hynny gan wneud gwahaniaeth i brofiad y claf.

Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant dwyieithog, gan sicrhau gwasanaeth sy'n canolbwyntio mwy ar y dinesydd sy'n parchu hunaniaeth ddiwylliannol pobl ac yn ymdrechu i ymateb i anghenion cyfathrebu pob claf a defnyddiwr gwasanaeth fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel a safonau proffesiynol.


'Dyw pawb ddim yn gallu siarad Cymraeg, ond os oes gan y tîm rywun
pwy sy'n siaradwr Cymraeg neu sy'n gallu dweud ychydig eiriau syml,
sy'n gwneud byd o wahaniaeth (profiad defnyddiwr)