Mae gan grwneriaid (neu eu swyddfeydd)hawl gyfreithiol i weld cofnodion unigolyn sydd wedi marw i gefnogi eu cwestau.
Os ydych yn gofyn am wybodaeth ar ran Crwner EM rhowch fanylion y Claf gan gynnwys dyddiad y digwyddiad a lleoliad.
Bydd yr holl gofnodion yn cael eu hanfon trwy e-bost diogel.
Dylid gwneud pob cais drwy e-bost i amb.records@wales.nhs.uk neu cysylltwch â’r Tîm ar 0300 123 2310.
Mae’n bosibl y bydd angen i grwneriaid gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol o bryd i’w gilydd, megis ceisiadau am ddatganiadau staff neu faterion sy’n ymwneud â chwest.
Mae’r manylion cyswllt fel a ganlyn:
Ffôn: 0300 321 3211
Cyfeiriad e-bost: amb_legalservices@wales.nhs.uk
Cyfeiriad post:
Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol
Ty Elwy
Uned 7 Ffordd Richard Davies
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy