Mae galwadau a dderbynnir gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael eu prosesu trwy'r System Anfon â Blaenoriaeth Feddygol gyfrifiadurol (MPDS).
Mae trinwyr galwadau hyfforddedig yn gofyn cyfres o gwestiynau MPDS wedi'u sgriptio, ac mae'r atebion yn nodi cyflwr clinigol y claf.
Rhoddir categori MPDS i bob cyflwr, a blaenoriaeth ymateb o dan ein Model Ymateb Clinigol (CRM).
Mae’r cyfuniad o god MPDS a blaenoriaeth CRM yn ein helpu i nodi’r math ymateb ambiwlans mwyaf priodol sydd ar gael i ddiwallu anghenion ein cleifion.
Gall clinigwyr (Parafeddyg neu Nyrs), sy'n gweithio yn ein CSC gysylltu â chleifion, lle bo'n briodol, i gynnal asesiad ffôn pellach.
Mae hyn yn galluogi cleifion i gael eu trin yn y gymuned yn unol â'u hanghenion gofal iechyd penodol. Gellir adolygu blaenoriaeth yr alwad hefyd yn seiliedig ar gyflwyniad clinigol y claf ar adeg yr asesiad.