Neidio i'r prif gynnwy

Ffigurau Perfformiad Diweddaraf

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn coladu'r wybodaeth ystadegol ganlynol, a gyhoeddir ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.

Gwasanaeth Meddygol Brys (EMS)

Diffinnir allbynnau ystadegol perfformiad swyddogol (a ddosberthir fel Perfformiad y GIG) fel Ystadegau Gwladol. Mae Ystadegau Gwladol yn Ystadegau Swyddogol sydd wedi’u hardystio gan Awdurdod Ystadegau’r DU fel rhai sy’n cydymffurfio â’i God Ymarfer. ( http://www.statisticsauthority.gov.uk/national-statistician/types-of-official-statistics/index.html )

Cyhoeddir Ystadegau Perfformiad EMS ar ddydd Mercher olaf pob mis am 9:30am

  • Gellir dod o hyd i wybodaeth am berfformiad crynodeb a datganiadau blaenorol yma
  • Mae gwybodaeth fanwl am berfformiad ar gael yma

GIG 111 Cymru

Gellir cael rhagor o wybodaeth yma

Trefniadau Mynediad Cyn Rhyddhau

Yn ogystal â'r staff sy'n cynhyrchu adroddiad ystadegol, caniateir i rai unigolion weld ystadegau swyddogol yn gynnar.

Mae hyn yn galluogi pobl fel Llywodraeth Cymru (Cynhyrchydd Ystadegau) a Thîm Gweithredol a Chyfathrebu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wneud sylwadau ar ystadegau ar sail dealltwriaeth gywir ohonynt.

Mae'r rheolau ynghylch pwy a pham y caniateir mynediad cynnar wedi'u nodi yng Ngorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol Cyn Rhyddhau (Cymru) 2009. Er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn y rheolau gall Awdurdod Ystadegau'r DU asesu trefniadau mynediad cyn rhyddhau.

Er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw, rydym yn cyhoeddi teitl adroddiadau ystadegol y mae trefniadau mynediad cyn rhyddhau yn berthnasol iddynt. Rydym yn cynnwys teitlau swyddi'r holl bobl hynny y caniateir mynediad cyn rhyddhau iddynt a'r sefydliadau y maent yn perthyn iddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei rhestr ei hun o drefniadau mynediad cyn rhyddhau a welir yma

Cyn Rhyddhau WAST

Tîm Mynediad, Gwybodaeth a Gwasanaethau Dadansoddol Llywodraeth Cymru
Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a TGCh Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Cynllunio Strategaeth 7 Partneriaeth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Gweithrediadau x 3 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Rheolwr Cyfathrebu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Dirprwy Reolwr Cyfathrebu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Uwch Swyddog Cyfathrebu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyfarwyddwr Anweithredol x 6 Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Pennaeth Gwybodeg Iechyd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Tîm Gwybodeg Iechyd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Adran Gwybodeg Iechyd: AMB_HIHelpDesk@wales.nhs.uk