Neidio i'r prif gynnwy

999

Gan weithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, rydym yn derbyn 679,000 o alwadau bob blwyddyn ar gyfer dros 450,000 o ddigwyddiadau yn ein tair Canolfan Gyswllt Glinigol yng Nghymru.

Pryd i ffonio 999

Peidiwch ag oedi cyn ffonio 999 mewn argyfwng difrifol neu argyfwng sy'n peryglu bywyd, fel poen yn y frest, diffyg anadl, anymwybyddiaeth neu waedu difrifol.

Fodd bynnag, mae nifer o opsiynau eraill ar gyfer pobl sydd â salwch neu anafiadau llai difrifol, gan gynnwys y canlynol:

  • Ymweld â’ch fferyllfa leol
  • Ymweld â gwefan GIG 111 Cymru neu ffonio 111
  • Ymweld â'ch meddyg teulu lleol

Ni chewch eich gweld yn gynt yn yr ysbyty os byddwch yn cyrraedd mewn ambiwlans, oni bai bod eich cyflwr yn peryglu bywyd. Gall ffonio 999 am broblem nad yw'n argyfwng gwirioneddol oedi ein criwiau rhag cyrraedd rhywun sydd mewn sefyllfa sy'n peryglu bywyd.

Meddyliwch yn ofalus cyn i chi ffonio 999 - gallwch chi helpu i achub bywydau. Os oes angen i chi fynd i'r ysbyty ac rydych chi’n gallu teithio'n ddiogel mewn car, trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi, gwnewch hynny.

Ffoniwch 999 ar unwaith ar gyfer argyfyngau difrifol fel:

  • Poen yn y frest
  • Anhawster anadlu
  • Colli ymwybyddiaeth
  • Colli gwaed difrifol
  • Tagu
  • Ffitio/confylsiynau
  • Adweithiau alergaidd difrifol

Beth sy’n digwydd pan ‘dych chi’n ffonio 999?

Pan fyddwch chi'n ffonio 999, bydd gweithredwr ffôn yn gofyn i chi pa wasanaeth brys sydd ei angen arnoch chi. Mewn argyfwng meddygol, dylech ofyn am ambiwlans, a chewch eich trosglwyddo i un o'n trinwyr galwadau 999, lle caiff y galwadau eu prosesu trwy'r System Dosbarthu â Blaenoriaeth Feddygol (MPDS) gyfrifiadurol.

Bydd angen i chi ddweud wrthym beth sy'n bod a beth sydd wedi digwydd, y cyfeiriad lle mae angen cymorth, gan gynnwys yr ardal bost os ydych chi'n ei gwybod, a'r rhif ffôn rydych chi'n ffonio ohono.

Unwaith y rhoddir yr wybodaeth hon, bydd trinwyr galwadau hyfforddedig yn gofyn cyfres o gwestiynau wedi'u sgriptio o’r system MPDS, y mae'r atebion iddynt yn dangos cyflwr clinigol y claf:

  • oedran, rhyw a hanes meddygol y claf
  • a yw'r claf yn anadlu, yn ymwybodol, yn gwaedu'n ddifrifol neu wedi cael poen parhaus yn y frest
  • y math o anaf a sut y digwyddodd

Ni fydd gofyn y cwestiynau hyn yn oedi trefnu cymorth ond mae'n galluogi'r cydlynwyr ymateb i gynnig cyngor os oes angen a sicrhau bod y cymorth mwyaf priodol yn cael ei ddarparu.

Mae'r cyfuniad o god MPDS a blaenoriaeth y galwadau yn ein helpu i nodi'r ymateb mwyaf priodol i ddiwallu anghenion ein cleifion. Gallai hwn fod yn ambiwlans argyfwng, uwch ymarferydd parafeddygol neu alwad yn ôl gan glinigydd i ofyn cwestiynau pellach i chi.