Mae pob penderfyniad y tu ôl i'r llyw yn bwysig. I ddiogelu eich hun ac eraill:
- Cadwch at derfynau cyflymder
- Osgowch wrthdyniadau - cadwch eich llygaid ar y ffordd
- Peidiwch byth ag yfed na gyrru dan ddylanwad cyffuriau
- Gwisgwch eich gwregys diogelwch
- Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer tywydd gwael
Beth i'w wneud pan fydd cerbyd brys yn agosáu atoch chi
Mae ein timau wedi'u hyfforddi i basio modurwyr eraill yn ddiogel wrth yrru o dan amodau brys (ar oleuadau glas a seirenau). Ceisiwch beidio â chynhyrfu os bydd cerbyd brys yn agosáu atoch – ond cofiwch:
- Os bydd cerbyd ambiwlans yn dod y tu ôl i chi gyda goleuadau glas a seirenau, tynnwch i'r chwith os oes lle diogel i wneud hynny.
- Os nad oes lle diogel, yn hytrach na stopio ar unwaith, mae'n well parhau ar y terfyn cyflymder nes bod lle diogel i dynnu i mewn neu nes y gall y cerbyd ambiwlans fynd heibio chi yn ddiogel.
- Os ydych chi'n agosáu at dro yn y ffordd neu ar ael bryn, tynnwch i'r ochr pan fydd golygfa well o'r ffordd o'ch blaen.
- Os oes llinell wen solet, efallai bydd y cerbyd brys yn diffodd ei seiren wrth iddo eich dilyn. Mae hyn oherwydd nad yw cynllun y ffordd yn caniatáu goddiweddyd yn ddiogel. Daliwch ati i fynd ar y terfyn cyflymder.
- Os yw'r lôn yn ddigon llydan a bod lle i'r cerbyd eich pasio, ceisiwch symud i'r chwith, ond heb fynd dros y llinell wen nac i lôn feiciau.
- Ceisiwch osgoi tynnu i mewn i lonydd bysiau neu feiciau. Mae criw’r ambiwlans wedi’u hyfforddi i yrru mewn traffig trwm ac efallai y byddant yn ceisio defnyddio’r lôn fysiau i basio, a gallech fod yn eu ffordd neu hyd yn oed gael dirwy.
- Peidiwch byth â mynd trwy oleuadau traffig coch gan y gallech gyflawni trosedd. Os yw'n ddiogel pasio, bydd yr ambiwlans yn gwneud hynny. Os nad yw’n ddiogel, byddant yn aros nes bod lle i basio mewn modd diogel.
- Ar ffordd ddeuol neu draffordd, y peth gorau i'w wneud yw symud i'r chwith os yw'r traffig yn symud, pan mae'n ddiogel newid lonydd. Peidiwch â stopio yn y lôn dde. Os nad yw’r traffig yn symud, ystyriwch lwybr y cerbyd brys a gadael i'r cerbyd yrru i lawr canol y traffig.
Beth i'w wneud pan fydd cerbyd ambiwlans wedi'i barcio
Bydd ein criwiau'n gwneud popeth o fewn eu gallu i beidio â rhwystro cerbydau eraill wrth barcio ar ôl cyrraedd argyfwng. Fodd bynnag, eu blaenoriaeth yw cyrraedd y claf cyn gynted â phosibl.
Os gwelwch chi gerbyd ambiwlans wedi'i barcio, gwnewch y canlynol:
- Peidiwch â blocio cerbyd ambiwlans gan y bydd hyn yn debygol o'u gohirio naill ai wrth fynd â chlaf i'r ysbyty neu wrth ymateb i alwad frys arall.
- Peidiwch â pharcio'n rhy agos at gefn ambiwlans. Er mwyn dod â rhai cleifion i'r ambiwlans yn ddiogel, efallai y bydd angen i'r criwiau defnyddio'r lifft yng nghefn y cerbyd, ac efallai na fydd hyn yn bosibl os yw cerbyd arall wedi'i barcio'n rhy agos.
Beth i edrych allan amdano wrth barcio'ch cerbyd
Gall parcio heb ystyried eraill atal cerbydau brys rhag cyrraedd digwyddiadau difrifol a allai ohirio triniaeth i’r rhai sydd angen cymorth.
Mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn datgan 'na ddylech stopio na pharcio yn unrhyw le y byddech yn atal mynediad i Wasanaethau Brys'.
Wrth barcio, ystyriwch y canlynol:
- Peidiwch â pharcio o flaen pwyntiau mynediad gwasanaethau brys
- Peidiwch â pharcio o flaen gorsafoedd ambiwlans
- Ufuddhewch i Reolau'r Ffordd Fawr a marciau ffordd fel llinellau melyn a chyffyrdd bocs
- Parciwch mor agos at y palmant â phosibl
- Parciwch yn syth gyda'r olwynion yn syth a phlygwch y drychau i mewn
- Mewn strydoedd cul, parciwch ar un och o’r ffordd yn unig, oni bai bod lleoedd parcio swyddogol
- Peidiwch â pharcio'n rhy agos at gorneli na mesurau tawelu traffig
- Gadewch le ychwanegol mewn cyffyrdd cyfyng
- Peidiwch â stopio na pharcio gyferbyn â chyffordd neu o fewn 10 metr iddi, oni bai eich bod mewn lle parcio awdurdodedig.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Blue Light Aware – adnodd addysgol a gynlluniwyd i helpu gyrwyr i gynorthwyo cerbydau brys yn ddiogel ar deithiau golau glas. Yn seiliedig ar ganllawiau Rheolau’r Ffordd Fawr, mae’n cynnwys fideos byr ac animeiddiadau a grëwyd ar ran gwasanaethau brys y DU.
Drwy ddefnyddio Blue Light Aware, byddwch yn deall anghenion gyrwyr brys yn well, yn lleihau risgiau ar y ffordd, ac yn helpu i greu amgylchedd gyrru mwy diogel i bawb.