Neidio i'r prif gynnwy

Rhai o'r rhesymau pam mae pobl yn ffonio

Cwympiadau

Mae'r risg yn uwch os ydych chi dros 65 oed, yn byw gyda chyflwr hirdymor, neu os oes gennych chi broblemau gyda chydbwysedd neu symudedd. Gellir osgoi llawer o anafiadau a phryderon os ydych chi'n gwybod beth i'w wneud.

Ar hyn o bryd, cwympiadau yw'r prif reswm pam mae pobl yng Nghymru yn galw am ambiwlans, a dyna pam mae'r Ymddiriedolaeth wedi sefydlu Desg Cwympiadau pwrpasol yn ei hystafell reoli 999 lle bydd clinigwyr arbenigol yn asesu'ch anghenion o bell ac yn darparu cyngor wedi'i deilwra yn seiliedig ar yr asesiad hwnnw, wedi'i gynllunio i gael cymorth cyflym i bobl sydd wedi cwympo. Gall hyn gynnwys canllawiau i helpu i leihau risg tra byddwch chi'n aros ar y llawr, fel aros yn hydradol ac addasu’r ffordd rydych chi’n gorwedd i leddfu pwysau. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn eich cynghori i geisio codi o'r llawr gyda chymorth gan ofalwyr, teulu neu ffrindiau - os yw'n briodol gwneud hynny yn dilyn ein hasesiad.

Gellir osgoi llawer o anafiadau a phryderon os ydych chi'n gwybod beth i'w wneud.

Yr hyn i’w wneud

  • Cariwch ffôn symudol neu gwisgwch larwm crog
  • Gwnewch yn siŵr bod gan rywun rydych chi'n ymddiried ynddo allwedd neu fod gennych chi sêff allweddi y tu allan - gwnewch yn siŵr bod y gwasanaethau brys yn ymwybodol o'r cod
  • Ymarferwch godi o'r llawr pan fyddwch chi'n teimlo'n dda
  • Ceisiwch symud ychydig bob dydd
  • Gwisgwch esgidiau sy'n ffitio'n dda gyda gafael da. Osgowch wisgo sliperi llac a mynd yn droednoeth.
  • Defnyddiwch fatiau gwrthlithro yn yr ystafell ymolchi
  • Ewch am wiriadau rheolaidd ar gyfer eich llygaid a’ch clyw
  • Siaradwch â'ch meddyg teulu neu fferyllydd os ydych chi'n teimlo'n benysgafn neu'n ansefydlog gan y gall rhai meddyginiaethau effeithio ar gydbwysedd

Yr hyn i beidio â’i wneud

  • Ceisio cyflawni tasgau sy’n teimlo’n beryglus e.e. ymestyn i gyrraedd silffoedd uchel – gofynnwch am gymorth bob tro
  • Gadael gwifrau'n llusgo, annibendod neu rygiau rhydd
  • Yfed gormod o alcohol
  • Rhuthro i sefyll
  • Os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gallu codi'n ddiogel:
  • Cymerwch eich amser
  • Rholiwch ar eich ochr a gwthiwch ar eich dwylo a'ch pengliniau
  • Cropiwch tuag at rywbeth cadarn e.e. cadair drwm, soffa, stepen neu hyd yn oed y bath
  • Rhowch un droed yn fflat ar y llawr, gwthiwch ar yr eitem gadarn a sefwch yn araf
  • Unwaith byddwch chi wedi codi, dewch o hyd i le i eistedd i lawr a gorffwys

Os na allwch godi

  • Defnyddiwch ffôn, larwm llinell fywyd neu larwm crog a galwch am help. Os na allwch afael yn y ffôn, gwaeddwch am help neu tarwch y llawr neu’r wal i ddenu sylw cymydog neu bobl sy’n pasio heibio.
  • Cadwch yn gynnes trwy dynnu rhywbeth drosodd i'ch gorchuddio
  • Symudwch gymaint ag y gallwch. Ceisiwch wiglo’ch breichiau a'ch coesau, neu rholiwch yn ysgafn o ochr i ochr.
  • Yfwch dwr lle bo modd

Pryd i ffonio 999

  • Methu codi, hyd yn oed gyda chymorth
  • Yn ddryslyd, yn gysglyd, neu'n chwydu
  • Wedi anafu eu pen, gwddf, cefn neu glun neu’n gwaedu’n ddifrifol

 

Iechyd meddwl

Gallai argyfwng iechyd meddwl edrych fel:

  • Gorbryder neu banig difrifol
  • Meddyliau am hunanladdiad neu hunan-niweidio
  • Gofid eithafol neu orlethu emosiynol
  • Dryswch neu newidiadau sydyn mewn ymddygiad

Gall argyfyngau iechyd meddwl hefyd gynnwys y bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel dementia, anabledd dysgu, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl amenedigol, plant a phobl ifanc, neu oedolion hŷn, neu sy’n defnyddio alcohol neu gyffuriau.

Ffoniwch 999 os ydych chi:

  • Mae bywyd rhywun mewn perygl uniongyrchol
  • Mae risg ddifrifol o hunanladdiad neu hunan-niweidio
  • Mae person mewn gofid mawr, yn ddryslyd, neu'n ymddwyn mewn ffordd sy'n ei roi ei hun neu eraill mewn perygl

Os nad yw'n argyfwng ond bod angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch GIG 111 Cymru a phwyso opsiwn 2.

Mae’r gwasanaeth hwn:

  • Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
  • Yn cefnogi pobl o bob oedran, gan gynnwys plant a phobl ifanc
  • Yn eich cysylltu'n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eich ardal
  • Yn rhad ac am ddim, gallwn ffonio hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ffôn

Os ydych chi'n cael trafferth, yn teimlo'n anniogel, neu'n poeni am rywun arall, mae cymorth ar gael. Y croesewir galwadau yn Gymraeg.

Pan fyddwch chi'n ffonio 999 neu 111, byddwch chi'n cael eich cysylltu â thriniwr galwadau sydd wedi'i hyfforddi i adnabod pryd y gall iechyd meddwl fod yn ffactor allweddol a bydd yn gofyn cwestiynau priodol i ddeall y canlynol:

  • Sut mae'r person yn teimlo ac yn ymddwyn
  • A oes risg uniongyrchol i fywyd neu ddiogelwch
  • A yw'r person ar ei ben ei hun neu a oes ganddo gefnogaeth o'i gwmpas

Mae hyn yn ein helpu i benderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol, a all gynnwys cyngor iechyd meddwl arbenigol, galwad yn ôl gan glinigydd, neu ymateb brys os oes perygl uniongyrchol.

Nid yw pob argyfwng iechyd meddwl yn gofyn am ambiwlans na thaith i'r adran argyfwng. Lle bo'n ddiogel ac yn briodol, ein nod yw darparu'r gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.

Mae hyn yn helpu i benderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol, a all gynnwys:

  • Galwad yn ôl clinigol gan barafeddyg, nyrs, neu glinigydd iechyd meddwl
  • Atgyfeiriad at wasanaethau iechyd meddwl brys yn y gymuned
  • Anfon ambiwlans neu adnodd arbenigol os oes risg uniongyrchol

 

Problemau anadlu a phoen yn y frest

Efallai nad yw diffyg anadl yn rhywbeth i boeni amdano, ond weithiau gall fod yn ddifrifol, a bydd angen i chi gael cymorth meddygol. Mae yna lawer o bethau sy’n gallu achosi diffyg anadl. Mae achosion cyffredin yn cynnwys:

  • asthma
  • haint ar y frest
  • bod dros bwysau
  • ysmygu
  • bwl o banig

Ond weithiau gallai diffyg anadl fod yn arwydd o rywbeth mwy difrifol. Ffoniwch 999 neu ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar unwaith os:

  • oes gennych chi anhawster anadlu difrifol – rydych chi'n anadlu'n gyflym, yn tagu neu ddim yn gallu siarad
  • yw eich brest yn teimlo'n dynn neu'n drwm
  • oes gennych chi boen sy'n lledaenu i'ch breichiau, cefn, gwddf a gên
  • yw eich gwefusau neu'ch croen yn troi'n welw iawn, yn las neu'n llwyd – ar groen brown neu ddu, efallai y bydd hyn yn haws i'w weld ar gledrau'ch dwylo
  • ydych chi'n teimlo'n ddryslyd yn sydyn

Nid yw'r rhan fwyaf o achosion poen yn y frest yn arwydd o unrhyw beth difrifol ond ceisiwch gyngor meddygol rhag ofn. Mae dau gyflwr y galon sydd angen gofal brys ar unwaith; trawiad ar y galon ac ataliad y galon. 

Mae trawiad ar y galon yn digwydd pan fydd rhydweli'n cael ei rhwystro, gan gyfyngu ar lif y gwaed i'r galon. Yr arwydd mwyaf cyffredin o drawiad ar y galon yw poen yn y frest, er bod symptomau eraill gan gynnwys teimlad o bwysau, llosgi yn y frest, poen canolog yn y frest a all ymledu i'r cefn, yr ên a'r breichiau, chwysu a diffyg anadl.

  • Ffoniwch 999 ar unwaith
  • Eisteddwch y claf i lawr
  • Cadwch nhw’n gorffwys
  • Cadwch nhw'n ddigynnwrf

Os na chaiff ei drin, gall arwain at ataliad y galon. Mae ataliad y galon yn digwydd pan fydd y galon yn stopio pwmpio gwaed o amgylch y corff, a gall fod yn ganlyniad i drawiad ar y galon, tagu neu drawma. Pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon, maen nhw’n llewygu ac yn mynd yn anymatebol. Maen nhw naill ai'n stopio anadlu'n llwyr, neu efallai y byddant yn anadlu’n drwm neu'n anadlu’n anaml am rai munudau, y gellir ei gamgymryd fel chwyrnu.

Os gwelwch chi rywun yn cael ataliad y galon, ffoniwch 999 ar unwaith a dechrau rhoi CPR (gall ein trinwyr galwadau eich tywys trwy'r broses a byddant yn eich cyfeirio at y diffibriliwr mynediad cyhoeddus agosaf).

Gall unrhyw un helpu i achub bywyd - hyd yn oed fel rhywun sy’n mynd heibio ar y stryd. Pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon, mae'n hanfodol eu bod yn derbyn cymorth ar unwaith, hyd yn oed os nad ydych chi wedi cael hyfforddiant ffurfiol. Mae pob eiliad heb gymorth bywyd brys yn ei gwneud hi'n anoddach ailgychwyn y galon. Gyda phob munud sy'n mynd heibio, mae siawns y person o oroesi yn gostwng yn sylweddol, a heb gymorth bywyd brys, ni fyddan nhw’n goroesi.

Gallai eich dwy law helpu i achub bywyd: