Neidio i'r prif gynnwy

Achub Bywyd Cymru

Mae Achub Bywyd Cymru yn rhaglen genedlaethol o fewn Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru, er mwyn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau achub bywyd  syml ond hanfodol, mewn llai na chwe munud.

Mae'r rhan fwyaf o ataliadau y galon yn digwydd yn y cartref, a gall hyn olygu mai’r person sydd angen eich help yw rhywun  rydych yn ei  adnabod a’i garu. Mae'r pecynnau dysgu byr rhyngweithiol hyn wedi eu cynllunio i’ch  helpu i fagu hyder i adnabod ataliad y galon, perfformio CPR, a defnyddio diffibriliwr.

Drwy dreulio ychydig funudau yn dysgu'r sgiliau hyn, gallech fod yn barod i weithredu pan fo wir angen eich help i achub bywyd.