Neidio i'r prif gynnwy

GoodSAM

Sefydlwyd GoodSAM yn 2013 i newid yr ymateb sylfaenol i ataliadau’r galon ac mae'n seiliedig ar y ddamcaniaeth, yn yr un modd ag y byddwch anaml yn fwy na phum metr o bry cop, mae'n debyg mai anaml y byddwch yn fwy nag ychydig gannoedd o fetrau o rywun sydd wedi'i hyfforddi mewn cynnal bywyd sylfaenol.

Mewn ataliad y galon, mae pob eiliad yn cyfrif, a bydd dechrau CPR cyn gynted â phosibl yn cynyddu'r siawns o oroesi. Mae ap ymatebwyr cardiaidd GoodSAM yn ap ffôn clyfar byd-eang rhad ac am ddim sy'n rhoi gwybod i ddefnyddwyr sydd wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf bod angen triniaeth cynnal bywyd sylfaenol ar rywun cyfagos sy'n dioddef ataliad y galon wrth iddo/iddi aros am ambiwlans.

Eu datganiad cenhadaeth: I achub bywyd ac atal niwed trwy dechnoleg.