Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn ymateb i 999

Mae nifer o ymatebion rydyn ni'n eu darparu:

Gwasanaeth Gofal Integredig o Bell

Efallai y bydd clinigwyr (parafeddyg neu nyrs), sy'n gweithio yn ein hystafell reoli, yn eich ffonio'n ôl i gynnal asesiad clinigol pellach dros y ffôn.

Mae hyn yn caniatáu i gleifion gael eu hasesu dros y ffôn o fewn y gymuned yn unol â'u hanghenion gofal iechyd penodol. Gall hyn yn aml olygu y byddwch yn cael cyngor hunanofal gartref neu y cewch eich atgyfeirio at ran fwy priodol o GIG Cymru a all fynd i'r afael â'ch anghenion yn fwy priodol, er enghraifft meddyg teulu.

Ambiwlans Argyfwng

Mae criw ambiwlans brys fel arfer yn cynnwys parafeddyg cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a thechnegydd meddygol brys neu ymarferydd ambiwlans brys.

Rhaid i griwiau fod yn fedrus iawn ac yn gallu cynnal asesiad cynhwysfawr a dechrau triniaeth a rheolaeth briodol. Yna caiff cleifion eu trosglwyddo i'r ysbyty neu uned arbenigol heb oedi diangen neu weithiau gellir eu cyfeirio at ran arall o'r gwasanaeth iechyd i gael gofal dilynol.

Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus

Mae’r Tîm Ymateb i Ardaloedd Peryglus, neu HART, yn uned arbenigol o staff ambiwlans hyfforddedig sydd wedi'u cyfarparu i ddarparu gofal clinigol mewn amgylcheddau peryglus, risg uchel neu aml-risg. Mae ganddyn nhw gerbydau amrywiol ac offer pwrpasol ar gyfer pob amgylchedd (cemegol, biolegol, radiolegol, a llefydd cyfyngedig).

Cerbyd Ymateb Unigol

Defnyddir cerbyd ymateb unigol gan amrywiol staff am nifer o resymau. 

  • Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru

Mae’r uned yn ymateb i’r galwadau mwyaf brys yn unig, gan gynnwys ataliadau'r galon, gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, trawma mawr ac argyfyngau mamolaeth.

  • Uwch Ymarferydd Parafeddygol

Mae Uwch Ymarferydd Parafeddygol yn barafeddyg cofrestredig y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal sydd wedi cwblhau hyfforddiant ychwanegol ar lefel meistr i ddarparu gofal a thriniaeth uwch gan gynnwys rhagnodi rhai meddyginiaethau ychwanegol.

  • Uwch Barafeddyg

Yn cyfuno arbenigedd clinigol â chyfrifoldebau arweinyddiaeth glinigol i sicrhau y gall staff ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel wrth gefnogi datblygiad timau rheng flaen.

  • Rheolwr Gweithredol

Y Rheolwr Gweithredol yw asgwrn cefn y tîm rheoli lleol a'r timau clinigol ac ansawdd i gynnal parhad a gyrru gwelliannau. Mae'n hanfodol bod y Rheolwr Gweithredol yn sicrhau bod gan unrhyw adnodd ar ddyletswydd bopeth sydd ei angen i gyflawni eu rôl i'r safon uchaf posibl heb oedi. Nhw yw'r pwynt cyswllt dyddiol ar gyfer materion uwchgyfeirio lleol ac yn gyswllt rhwng rhanddeiliaid allweddol eraill (ysbytai lleol, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac ati).

Ymatebwr Lles Cymunedol neu Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned

Gan deithio yn eu cerbydau eu hunain, mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned gwirfoddol yn darparu triniaeth a chymorth hanfodol sy'n achub bywydau yn y munudau hollbwysig hynny cyn i'r criw ambiwlans gyrraedd, tra bod Ymatebwyr Lles Cymunedol gwirfoddol yn darparu arsylwadau lles a chlinigol ar gleifion aciwtedd is o fewn y gymuned ac yn darparu mwy o wybodaeth i glinigwyr yn ein canolfannau rheoli clinigol.