Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ychwanegol wrth gyrchu 999

Ein nod yw gwneud ein gwasanaeth mor hygyrch â phosibl. Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw, yn blentyn neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, ewch i'n tudalen cymorth ychwanegol.

Byddar neu’n drwm eu clyw

Os ydych chi'n fyddar, yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu'n drwm eich clyw ac mae gennych chi argyfwng meddygol ac angen ambiwlans yng Nghymru, mae cymorth ar gael hyd yn oed os na allwch chi ddefnyddio galwad ffôn llais. Mae sawl ffordd ddiogel a dibynadwy o gysylltu â'r gwasanaethau brys, yn dibynnu ar sut rydych chi'n cyfathrebu.

Os ydych chi'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain: 999 BSL

Mae 999 BSL yn wasanaeth brys am ddim, 24/7 sy'n caniatáu i ddefnyddwyr BSL gysylltu â'r gwasanaethau brys gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain fyw.

Gallwch ei ddefnyddio i ofyn am:

  • Ambiwlans
  • Heddlu
  • Tân ac Achub
  • Gwylwyr y Glannau

Sut mae’n gweithio

  1. Agorwch ap neu wefan BSL 999
  2. Pwyswch y botwm coch “Call 999 BSL now”
  3. Mae dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain cymwys yn ymddangos ar y sgrin
  4. Mae'r dehonglydd yn ffonio 999 ac yn trosglwyddo'r sgwrs mewn amser real

Nid oes angen i chi gofrestru ymlaen llaw, ond gallwch lawrlwytho a gosod yr ap ar eich ffôn unrhyw bryd. Mae'n gweithio ar ffonau clyfar, tabledi, gliniaduron a chyfrifiaduron bwrdd gwaith ac nid oes angen siarad ar lafar.

Ewch i www.999bsl.co.uk i gael mynediad at y gwasanaeth neu i lawrlwytho’r ap.

Os nad ydych chi'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain: Text 999 (Neges destun brys)

Os na allwch glywed na siarad ar y ffôn, gallwch anfon neges destun SMS i 999 mewn argyfwng.

Rhaid i chi gofrestru eich ffôn symudol ymlaen llaw – ni allwch gofrestru mewn argyfwng.

Sut i gofrestru

  1. Tecstiwch REGISTER i 999
  2. Darllenwch yr ymateb yn ofalus
  3. Tecstiwch YES i gadarnhau
  4. Byddwch yn derbyn neges yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.

Sut i ddefnyddio Text 999

  • Tecstiwch 999
  • Dylid cynnwys:
    • Pa wasanaeth sydd ei angen arnoch chi (ambiwlans)
    • Beth sy'n bod
    • Ble rydych chi (cyfeiriad neu leoliad)

Dim ond pan na allwch wneud galwad llais y dylid defnyddio Text 999.

Os gallwch chi siarad neu deipio ond ni allwch chi glywed: Defnyddiwch Relay UK i ffonio 999

Mae Relay UK yn caniatáu i gynorthwyydd Relay hyfforddedig:

  • Cyfleu eich neges ysgrifenedig neu iaith arwyddion i’r triniwr galwadau
  • Teipio yn ôl yr hyn y mae'r triniwr galwadau yn ei ddweud

Sut i ffonio 999 gan ddefnyddio Relay UK

  • Defnyddiwch ap Relay UK, neu
  • Deialwch 18000 (yn lle 999)

Mae Relay UK am ddim ac ar gael 24/7. Dysgwch fwy yn www.relayuk.bt.com

Gwybodaeth Bwysig

  • Defnyddiwch 999, 999 BSL, neu Text 999 ar gyfer argyfyngau difrifol neu sy'n peryglu bywyd yn unig
  • Am gyngor meddygol brys a difrys, ffoniwch GIG 111 Cymru
  • Os byddwch chi'n newid eich rhif ffôn symudol, rhaid i chi ailgofrestru ar gyfer Text 999

 

Language Line

Os nad ydych chi neu'r person rydych chi'n ffonio ar ei ran yn siarad Cymraeg na Saesneg, gallwch chi gysylltu â'r gwasanaethau brys yn ddiogel o hyd.

Pan fyddwch chi'n ffonio 999, gall Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu (Langugae Line) i'n helpu ni i ddeall beth sy'n digwydd ac anfon y cymorth cywir cyn gynted â phosibl.

Sut mae’n gweithio

  • Pan fydd eich galwad 999 yn cyrraedd ein hystafell reoli, bydd y triniwr galwadau yn ceisio nodi'r iaith rydych chi'n ei siarad.
  • Os oes angen cyfieithydd ar y pryd, bydd y triniwr galwadau yn cysylltu'n gyflym â Language Line, gwasanaeth cyfieithu ar y pryd dros y ffôn diogel.
  • Mae cyfieithydd ar y pryd hyfforddedig yn ymuno â'r alwad ac yn cyfieithu rhyngoch chi a'r triniwr galwadau mewn amser real. Nid oes angen i chi drefnu hyn ymlaen llaw.

Defnyddir cyfieithwyr ar y pryd Language Line ar draws y GIG a'r gwasanaethau brys ac maent yn cefnogi llawer o ieithoedd gwahanol.

Pwysig i’w nodi

  • Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim
  • Mae’r cyfieithwyr ar y pryd yn gyfrinachol ac yn broffesiynol
  • Mae cyfieithu ar y pryd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
  • Dylech chi ddal i ffonio 999 ar unwaith mewn argyfwng difrifol neu argyfwng sy'n peryglu bywyd.

Gallwch ddarllen mwy am Language Line ar eu gwefan: Language Services | Language Line Solutions

 

Rydym wedi ymrwymo i ofal brys hygyrch

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i bobl fyddar a thrwm eu clyw, ac i gael gwared ar rwystrau iaith lle bynnag y bo modd. Os oes gennych unrhyw adborth am gyrchu ein gwasanaethau trwy ddefnyddio Language Line, gallwch gysylltu â'r Tîm Profiad Cleifion drwy e-bostio peci.team@wales.nhs.uk