I lawer o blant, gall sefyllfa argyfwng deimlo'n frawychus ac yn anghyfarwydd. Mae ymchwil yn dangos bod ymgyfarwyddo'n gynnar yn helpu i leihau pryder ac yn annog gwneud penderfyniadau hyderus a gwybodus.
Gall gwybod beth sy'n digwydd pan gaiff 999 ei ffonio helpu plentyn i aros yn ddigynnwrf. Efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau fel:
Pan ddaeth hi’n anodd cynnal ymweliadau ysgol wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig, chwiliodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am ffyrdd arloesol o barhau i ddarparu addysg gyhoeddus hanfodol. Datblygwyd yr Hwb Golau Glas fel datrysiad digidol i barhau i gyrraedd plant ledled Cymru.
Mae’r Hwb Golau Glas yn ap gemau addysgiadol a hwyliog a grëwyd gan yr Ymddiriedolaeth i helpu pobl ifanc i ddysgu beth i'w wneud mewn argyfwng. Wedi'i gynllunio ar gyfer plant 7 i 12 oed, mae'r ap dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) rhad ac am ddim hwn yn defnyddio gemau rhyngweithiol i addysgu plant sut i ddefnyddio 999 yn gyfrifol, lleihau pryder, a chyfarwyddo plant â byd gofal brys. Fe'i datblygwyd gyda mewnbwn gan seicolegydd clinigol ac arbenigwr datblygiad cymdeithasol i gefnogi ymddygiadau cadarnhaol a meithrin hyder yn ystod sefyllfaoedd brys.
Mae'r ap yn eich dysgu:
Mae'r Hwb Golau Glas yn rhad ac am ddim ac ar gael nawr: Google Play Store (Android) ac Apple App Store (iOS).
Am fwy o adnoddau addysgol, ewch i StayWiseCymru. Nod y wefan yw darparu adnoddau diogelwch, pecynnau gweithgareddau a chynlluniau gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae yna hefyd adran i rieni ac adran i athrawon gyda chynlluniau gwersi sy'n rhoi amrywiaeth o adnoddau i chi y gellir eu dewis yn seiliedig ar yr ystod oedran rydych chi'n ei haddysgu a'r maes penodol o'r cwricwlwm y mae'r pwnc hwn yn ymwneud ag ef.