Neidio i'r prif gynnwy

Ydw i'n Gymwys Ar Gyfer Cludiant NEPTS?

Mae'r gwasanaeth hwn yn adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sydd ei angen ac sy'n dibynnu arno ac ni ddylid ei ddefnyddio yn lle dulliau eraill o gyrraedd apwyntiadau.

Allwch chi ddweud ie i un neu fwy o'r canlynol?

  1. Ydych chi'n dioddef o Glefyd Niwronau Motor?
  2. Ydych chi'n cael Triniaeth Arennol?
  3. Ydych chi'n cael Triniaeth Oncoleg?
  4. Ydych chi'n defnyddio eich cadair olwyn eich hun?
  5. Oes angen i chi deithio mewn stretsier?
  6. Oes angen ocsigen arnoch chi?
  7. A oes gennych chi anghenion meddygol sy'n eich atal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Ydych chi wedi darllen yr holl wybodaeth am y Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng (NEPTS) , ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml , wedi profi eich cymhwysedd, ac yn dal i gredu y gallech fod yn gymwys ar gyfer ein cludiant cleifion?

Gallech fod yn gymwys ar gyfer ein Gwasanaeth Trafnidiaeth. Ffoniwch 0300 123 2303.

Mae ein canolfannau archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm.

Pan fyddwch yn ffonio bydd aelod o'n tîm yn asesu eich anghenion cludiant gan nodi eich symudedd, penderfynu ar y math o gerbyd a lefel y gefnogaeth sydd ei hangen gan ein staff.

Cyn ffonio, gwnewch yn siŵr bod y canlynol ar gael;

  • Rhif GIG;
  • Rhif Ffon;
  • Enw'r ysbyty/adran. rydych yn ymweld a;
  • Dyddiad ac amser eich apwyntiad.

Os archebir eich cludiant, cynigir neges destun i'ch atgoffa i ffôn symudol 1 diwrnod cyn eich archeb ( bydd y neges hon yn eich atgoffa o amser a dyddiad eich archeb ac yn gofyn i chi gadarnhau a oes angen y cludiant arnoch o hyd).

Byddwch hefyd yn cael cynnig cyfle i gwblhau holiadur ar sut y daethoch o hyd i'n gwasanaeth.

Ar gyfer cleifion y canfyddir eu bod yn anghymwys drwy ein proses gymhwysedd, mae rhai opsiynau i’w hystyried ar gyfer dulliau eraill o deithio yma.