Neidio i'r prif gynnwy

Darpariaeth Allanol

Gweithio tuag at amcan ar y cyd i ddarparu cludiant yn ddiogel yn y gymuned

Yn ogystal â defnyddio ein cerbydau di-argyfwng ein hunain i gludo ein cleifion i'w hapwyntiadau ysbyty rydym hefyd yn dibynnu ar gymorth darparwyr eraill.

Mae'r darparwyr hyn, boed yn wirfoddol neu drwy ein Fframwaith 365, yn ymgymryd â gwaith wedi'i amserlennu ledled Cymru.

Rydym bob amser yn awyddus i groesawu darparwyr newydd i mewn, isod mae rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt os hoffech chi ymholi ymhellach.

Gallwn;

  • Cynnig gwaith cynaliadwy i chi ledled Cymru i'ch galluogi i ddefnyddio'ch adnoddau ar adegau tawel;
  • Cynnig hyblygrwydd i ffitio o fewn eich cyfnodau prysur a thawel;
  • Cynnig cyfraddau cystadleuol;
  • Helpu i godi eich safonau trwy archwiliadau a hyfforddiant a chynnig asesiadau risg;
  • Eich helpu i gyflawni eich amcan fel sefydliad i ddarparu cludiant yn ddiogel yn y gymuned.

Mae gennym ddau opsiwn ar gael; gallwch ddewis gweithio trwy un neu'r ddau, pa un bynnag sydd orau i'ch sefydliad!

I gael rhagor o wybodaeth ac i siarad ag un o'n tîm, cysylltwch â olivia.barnes@wales.nhs.uk