Mae Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cefnogi cleifion, staff a gwirfoddolwyr ledled Cymru.
Drwy gefnogi #TîmWAST, bydd eich rhoddion yn ein helpu i ddarparu offer a hyfforddiant, a chyflwyno prosiectau newydd, y tu hwnt i’r hyn sy’n bosibl trwy gyllid statudol gan y llywodraeth.
Os hoffech chi gysylltu â'r Tîm Elusen, anfonwch neges e-bost at: amb_charity@wales.nhs.uk
Os ydych yn ystyried rhoi rhodd i Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, diolch. Bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n cleifion, staff, gwirfoddolwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru.
Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi gefnogi ein gwaith achub bywyd:
Mae pob rhodd i Elusen Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n staff, gwirfoddolwyr a chleifion.
Gallai eich rhodd helpu drwy:
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gallwch gysylltu â’r Tîm Elusen drwy e-anfon neges e-bost at:amb_charity@wales.nhs.uk
Mae Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi'i dynodi'n Ymddiriedolwr Corfforaethol yr Elusen. Er mwyn cynorthwyo'r Ymddiriedolwr Corfforaethol i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan y cofrestriad hwn, mae Pwyllgor Elusennol wedi'i sefydlu gyda phwerau dirprwyedig i reoli'r Elusen.