Neidio i'r prif gynnwy

Ymatebwyr Lles Cymunedol

Mae gwirfoddolwyr Ymatebwyr Lles Cymunedol yn cael eu hyfforddi i gefnogi darparu gofal brys i gleifion yn y gymuned ledled Cymru.

Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol yn darparu cymorth i glinigwyr yn ein Canolfannau Rheoli Ambiwlans trwy:

  • Mynychu galwadau 999 priodol yn eu cymuned leol.
  • Cymryd cyfres gychwynnol o arsylwadau a gwiriadau lles ar y claf, gan gynnwys cyfradd curiad y galon a lefelau ocsigen.
  • Adrodd y canlyniadau yn ôl i glinigwyr yn ein hystafelloedd rheoli.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf hon yn helpu'r clinigwr i benderfynu ar y llwybr mwyaf priodol i'r claf. Gallai hyn gynnwys anfon ambiwlans, cyfeirio'r claf at ei Feddyg Teulu neu at opsiynau gofal iechyd amgen.

Mae rôl Ymatebwr Lles Cymunedol yn rhan o brosiect Connected Support Cymru, ac yn rhan annatod o’n huchelgais strategol hirdymor yn ‘Sicrhau Rhagoriaeth’. Mae’r Ymatebwyr Lles Cymunedol yn chwarae rhan allweddol i sicrhau bod cleifion yn cael y cyngor a’r gofal cywir, yn y lle iawn, bob tro.

Bydd swyddogion cymorth yn cynorthwyo’r Ymatebwyr Lles Cymunedol drwy ddarparu hyfforddiant, bod yn bwynt cyswllt canolog, a darparu cymorth logistaidd i hwyluso’r gweithrediadau dyddiol.

Dod yn Ymatebwr Lles Cymunedol

Nid oes angen i chi fod ag unrhyw hyfforddiant meddygol blaenorol i ddod yn Ymatebwr Lles Cymunedol. Rydym yn darparu hyfforddiant llawn ac yn annog y rhai sydd â'r amser a'r awydd i roi yn ôl i'w cymuned i wneud cais.

Rhaid i wirfoddolwyr:

  • Meddu ar drwydded yrru lawn y DU (uchafswm o 3 phwynt cosb) a bod â mynediad at gerbyd.
  • Bod yn 18 oed neu'n hŷn.
  • Bod yn ffit yn gorfforol.
  • Gweithio'n dda o dan bwysau ac yn gallu aros yn dawel mewn argyfwng.
  • Bod yn falch o'u cymuned ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.

Sut i wneud cais

Hysbysebion recriwtio Ymatebwyr Lles Cymunedol sydd ar ddod ledled Cymru.
Oherwydd y galw gweithredol, gall y dyddiadau isod newid. Ychwanegir dyddiadau newydd yn fisol.

Gallwch ddod o hyd i’r hysbysebion byw ar gyfer ein swyddi gwag presennol ar gyfer gwirfoddolwyr a swyddi yma.

Beth sydd nesaf?

Os gwnaethoch gofrestru eich diddordeb drwy lenwi’r ffurflen mynegi diddordeb ar-lein, byddwn yn cysylltu â chi gyda rhagor o fanylion yn fuan. Byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu un o'n diwrnodau agored gwirfoddolwyr.

Yn ystod y diwrnodau agored byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y rôl a’r hyfforddiant, yn cynnal cyfweliadau ac yn dechrau’r broses sgrinio, gan gynnwys Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), geirdaon proffesiynol a chliriad iechyd galwedigaethol.